Addysg Gymraeg
Plant cyn oed ysgol
Beth bynnag fo iaith y cartref os ydych chi yn awyddus i fagu eich plant gydag iaith arall, mae sawl peth y gallwch chi ei wneud i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael y cychwyn gorau, hyd yn oed cyn iddyn nhw gyrraedd oed ysgol.
Mudiad Meithrin sydd yn gyfrifol am grwpiau Ti a Fi – ar gyfer rhieni a phlant o dan 2 ½ mlwydd oed – a’r Cylch Meithrin – meithrinfa ar gyfer plant rhwng 2 a 5 mlwydd oed (cyn oed ysgol).
Plant oed ysgol
Mae siarad mwy nag un iaith yn gallu bod yn fuddiol iawn i feddwl sydd yn tyfu. Waeth beth y bydda nhw yn ei wneud yn y dyfodol o ran gwaith, nac yn lle, fe all dysgu a siarad iaith arall helpu datblygu rhannau penodol o’r ymennydd sydd yn cynyddu creadigrwydd a sgiliau datrys problemau.
Canolfannau Iaith Gwynedd
Mae gan Wynedd Ganolfannau Trochi Iaith ar gyfer plant. Nod y Canolfannau Iaith yw darparu cwrs dwys yn y Gymraeg i fewnfudwyr er mwyn eu galluogi i ymdoddi i’r gymdeithas ddwyieithog a chyfranogi’n llawn o brofiadau addysg ddwyieithog.
Adnoddau Digidol
Mae’r adnoddau digidol sydd ar gael i blant ifanc yn cynyddu drwy’r adeg hefyd, gyda nifer o apiau hwyliog ac addysgol ar gael, gan gynnwys gwefan HWB (adnoddau addysgol Llywodraeth Cymru sy’n cael ei ddefnyddio gan ysgolion).
Tu allan i’r ysgol
Ewch i chwilio am weithgareddau sydd yn cael eu rhedeg gan y mudiadau a’r sefydliadau canlynol sy’n cynnal gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg yn benodol: