Gweithgareddau
Map Gweithgareddau
Yda chi’n chwilio am weithgaredd newydd i chi neu’r plant? Eisiau gwybod beth sydd ymlaen yn eich ardal leol? Eisiau cyfle i ddefnyddio neu ymarfer eich Cymraeg mewn gweithgaredd anffurfiol?
Mae map wedi ei greu er mwyn rhoi gwybodaeth am lle i ddod o hyd i weithgareddau cymunedol yng Ngwynedd, ac yn benodol gweithgareddau sydd yn cael eu cynnal yn Gymraeg. Mae’n fap byw, a grwpiau, clybiau a chymdeithasau yn gallu llwytho gwybodaeth eu hunain er mwyn ei gynnwys ar y map a hysbysebu eu digwyddiadau.
Gallwch chwilio am bob math o weithgareddau yn eich ardal leol.
Gweld Map Gweithgareddau Gwynedd
Os yda chi yn cynnal gweithgaredd neu yn gyfrifol am grŵp sydd yn cwrdd yn rheolaidd, mi allwch chi osod gwybodaeth ar y map drwy lenwi’r holiadur isod. Bydd y wybodaeth wedyn yn ymddangos ar y map ac ar gael i bawb ei weld.
Holiadur Gweithgareddau - rhoi gwybod i ni am weithgaredd
Mae’r map wedi ei greu yn benodol ar gyfer gweithgareddau sefydlog, sydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd (wythnosol, misol) yn yr un lleoliadau, neu ar yr un amser – dim digwyddiadau unwaith ac am byth.
Datganiad: Er y byddwn yn gwirio cynnwys y map yn rheolaidd, nid yw’r Cyngor yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb y wybodaeth sydd yn cael ei fewnbynnu ar y map. Cyfrifoldeb yr unigolion sydd yn rhoi y wybodaeth ar ran y grwp/mudiad/clwb yw sicrhau bod y wybodaeth yn gywir ac yn gyfredol, ac nad oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei rannu heb ganiatâd yr unigolyn perthnasol.
Gweithgareddau i deuluoedd
Mae nifer o weithgareddau difyr i deuluoedd yn cael eu trefnu drwy’r flwyddyn. Isod mae dolen i wefan Gwasaneth Gwybodaeth i Deuluoedd Gwynedd:
Gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg i deuluoedd
Gweithgaredd Cymunedol
Mae Menter Iaith Gwynedd yn trefnu nifer o weithgareddau amrywiol a diddorol yn y gymuned i bobl o bob oed:
Mynd i wefan Menter Iaith Gwynedd
Facebook Menter Iaith Gwynedd
X / Twitter Menter Iaith Gwynedd
Instagram Menter Iaith Gwynedd