Beth yw Budd-dal Tai?

Mae Budd-dal Tai yn un o fudd-daliadau’r wladwriaeth i'ch cynorthwyo i dalu eich rhent os ydych ar incwm isel. Yn ddibynnol ar eich incwm a'ch amgylchiadau, gall y Cyngor gyfrannu hyd at 100% tuag at eich rhent.

Gallwch wneud cais os ydych yn gweithio neu’n ddi-waith. Os ydych yn byw efo partner, dim ond un ohonoch all wneud cais am Fudd-dal Tai.

Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar:

  • os oes gennych bartner neu beidio 
  • eich incwm o weithio, ac o bethau fel budd-daliadau a phensiynau. 
  • unrhyw gynilion a buddsoddiadau sydd gennych
  • amgylchiadau pobl eraill sydd yn byw gyda chi (e.e. eu hoed ac incwm)
  • y nifer o ystafelloedd gwely rydych eu hangen os yn rhentu gan Gymdeithas Tai

Defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld os ydych yn gymwys, os ydych yn gymwys ewch ymlaen i wneud cais. 

Cyflwyno cais newydd ar-lein / dychwelyd i gais wedi ei gadw

Dechrau cyfrifiad newydd / dychwelyd i gyfrifiad wedi ei gadw

Os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni i drafod.