Absenoldeb dros dro o'r cartref

Gellir parhau i dalu Budd-dal Tai mewn rhai amgylchiadau tra’r ydych yn absennol o'ch cartref dros dro.

Y tri phrif amod sy’n rhaid eu bodloni er mwyn i chi dderbyn Budd-dal Tai tra’n absennol yw:

  • Eich bod yn bwriadu dychwelyd adref
  • Nad yw'r brif annedd wedi bod, nac yn mynd i gael ei is-osod
  • Nad yw cyfnod yr absenoldeb yn debygol o ymestyn tu hwnt i'r terfynau.

Mae'r rheolau yn wahanol ar gyfer absenoldebau tu allan i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban).

Efallai y bydd y tabl absenoldeb dros dro yn eich helpu i adnabod y gwahanol gyfnodau o absenoldeb sy'n gymwys, ond os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni i drafod.