Gordaliadau

Mae gordaliadau’n digwydd am amryw o resymau:

  • Efallai eich bod wedi rhoi gwybodaeth anghywir i ni, neu heb ein hysbysu o rywbeth roeddem angen ei wybod, neu wedi oedi cyn dweud wrthym am newid.
  • Efallai ein bod ni wedi oedi cyn delio efo newid.
  • Efallai ein bod ni wedi gwneud camgymeriad.

Yn arferol, mae pob gordaliad yn adferadwy oni bai iddynt gael eu hachosi gan gamgymeriad swyddogol gan y Cyngor neu’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). 

Os yw gordaliad wedi ei wneud o ganlyniad i gamgymeriad swyddogol, mae tair elfen wahanol y bydd raid i’r Cyngor ystyried cyn penderfynu os gellir adennill y gordaliad neu beidio. Os yw’r tair elfen ganlynol yn berthnasol, gellid penderfynu nad yw’n bosib adennill y gordaliad:

  1. Camgymeriad Perthnasol - Rhaid i'r gordaliad fod wedi ei achosi gan gamgymeriad swyddogol.
  2. Dim Cyfraniad gan Berson Perthnasol i'r camgymeriad - Nid yw’n ‘gamgymeriad swyddogol’ os bu i ‘r person a dderbyniodd y gordaliad gyfrannu tuag at y camgymeriad.
  3. Gwybodaeth o’r Gordaliad - Ni fyddai’n rhesymol i’r hawliwr wybod fod gordaliad

Os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni i drafod.