Dweud wrthym am newid amgylchiadau

Peidiwch â’i adael tan y tro nesaf y byddwn ni'n cysylltu gyda chi - dywedwch wrthym nawr.


Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau


Os ydych eisiau ffurflen bapur neu angen help i lenwi'r ffurflen ar-lein cysylltwch â ni.


Pam fod rhaid i chi ddweud wrthym am newidiadau?

  • Mae’r gyfraith yn dweud fod rhaid i chi ein hysbysu o unrhyw newid i’r wybodaeth a ddefnyddiwyd i benderfynu eich hawl i Fudd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor a Budd-daliadau Addysg.
  • Mae’n rhaid i chi adael i ni wybod am unrhyw newidiadau cyn gynted ag y maent yn digwydd.
  • Dyma rai o'r newidiadau y dylech ddweud wrthym amdanynt: 
    • os newidiwch eich cyfeiriad
    • os bydd eich incwm chi neu eich cymar yn newid, e.e. codiad cyflog, pensiwn neu Gredyd Treth Gwaith a Phlant, dechrau neu orffen derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Gwaith a Chefnogaeth, Credyd Cynhwysol a.y.b.
    • os yw plentyn dibynnol yn gadael yr ysgol, os yw eich hawl Budd-dal Plant yn terfynu neu beidio
    • os bydd unrhyw rent rydych yn dderbyn gan is-denant yn codi neu’n gostwng
    • os daw rhywun i fyw atoch neu adael eich aelwyd
    • os bydd amgylchiadau neu incwm rhywun nad yw’n ddibynnol yn y cartref yn newid, e.e., dechrau gwaith, priodi, a.y.b.
    • os bydd eich rhent yn codi neu’n gostwng (Tenant Preifat yn unig)
    • unrhyw newid, codi neu ostwng, yn eich cyfalaf / arbedion.

Nid yw’r rhestr uchod yn ymdrin â phob newid, ond dylech ddweud am bob newid a all effeithio faint o fudd-dal tai / gostyngiad treth cyngor a dderbyniwch. Os telir gormod i chi, bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl.