Beth yw Gostyngiad Treth Cyngor?

Beth yw Gostyngiad Treth Cyngor?

Mae Gostyngiad Treth Cyngor yn ostyngiad yn eich bil Treth Cyngor wedi ei seilio ar:

  • eich incwm 
  • maint eich teulu 
  • oedolion eraill sy’n byw gyda chi
  • faint o Dreth Cyngor sydd raid i chi ei dalu

Yn gyffredinol yr isaf eich incwm, y mwyaf y gostyngir eich bil gan Ostyngiad Treth Cyngor, ac os ydych yn gymwys am y gostyngiad mwyaf, byddwch yn derbyn 100% o ostyngiad yn eich bil, sy'n golygu na fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw Dreth Cyngor.

Defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld os ydych yn gymwys, os ydych yn gymwys ewch ymlaen i wneud cais. 

Cyflwyno cais newydd ar-lein / dychwelyd i gais wedi ei gadw


Dechrau cyfrifiad newydd / dychwelyd i gyfrifiad sydd wedi ei gadw

Os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni i drafod.