Apelio yn erbyn penderfyniad

Os ydych yn anghytuno efo’n penderfyniad Gostyngiad Treth Cyngor, dylech gysylltu o fewn UN MIS i ddyddiad y rhybudd, neu efallai na fedrwn ystyried unrhyw anghydfod.

Gallwch naill ai:

  • ofyn am eglurhad
  • ofyn i ni edrych eto ar y penderfyniad
  • apelio yn erbyn y penderfyniad – yn ysgrifenedig yn unig. 

Os byddwch yn apelio yn erbyn y penderfyniad Gostyngiad Treth Cyngor, mi fydd eich apêl yn cael ei glywed gan dribiwnlys annibynnol a weinyddir gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.