Grantiau celfyddydol

Mae grantiau amrywiol ar gael i gefnogi gweithgarwch celfyddydol yng Ngwynedd.

1. Cronfa Celfyddydau Cymunedol

Cronfa i gefnogi grwpiau cymunedol a gwirfoddol i gynnal gweithgareddau celfyddyd gymunedol yng Ngwynedd. Grantiau hyd at £500 ar gael.

Sicrhewch eich bod yn darllen y canllawiau cyn llunio eich cais. Cysylltwch am gyngor a gwybodaeth bellach celf@gwynedd.llyw.cymru

Dyddiadau cau:

  • 30 Mawrth 
  • 30 Mehefin
  • 30 Medi
  • 30 Rhagfyr 

Rydym yn anelu i gysylltu ag ymgeiswyr gyda chanlyniadau eu cais o fewn pythefnos wedi'r dyddiad cau. Byddwn yn cydnabod derbyn pob cais a ddaw i law.

 

2. Noson allan

Mae Uned Celfyddydau Cymunedol yn gweithio mewn partneriaeth â Noson Allan.

Oes canolfan gymunedol, neuadd bentref neu glwb ieuenctid gyda chi?

Hoffech chi groesawu perfformiadau proffesiynol i'ch canolfan?

Hoffech chi osgoi'r pen tost o boeni am y risg ariannol?

Ydych chi'n poeni nad allwch ei fforddio? Gallwch, mi allwch.

Gallwn gynnig cyllid, cyngor, tocynnau a gwefan gyfoes gyda manylion am y cwmnïau a'r sioeau sydd ar gael. Gallwch wneud cais i'r cynllun a reolir gan Uned Teithio Cymunedol Cyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd.

Ydych chi'n berfformiwr proffesiynol, cwmni theatr neu fand a hoffai ymuno â'r cynllun? Ymwelwch â'r wefan am fwy o fanylion www.nosonallan.org.uk

 

3. Grantiau Strategol i’r Celfyddydau, Cyngor Gwynedd 2020-2022 

Mae’r gronfa ar agor i dderbyn ceisiadau  ar gyfer cynlluniau i’w cynnal yn ystod 2020-2022.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais: 9am, 26 Chwefror 2020.

Mae’r gronfa yn agored i unrhyw fudiad sy’n cydymffurfio â’r canllawiau ymgeisio. Gall ymgeiswyr ymgeisio am hyd at £15,000 y flwyddyn. Swm o tua £85,000 y flwyddyn sydd ar gael felly bydd cystadleuaeth ar gyfer adnoddau prin. 

Rydym yn annog ymgeiswyr i gyflwyno ceisiadau realistig sy'n cydymffurfio â'r canllawiau.

Am fwy o fanylion am y gronfa cysylltwch gyda: 

Nêst Thomas, Prif Swyddog Amgueddfeydd a’r Celfyddydau
celf@gwynedd.llyw.cymru

Ceisiadau i’w hanfon at:
cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru 

 


4. Cronfeydd Grant Posib Eraill

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn darparu cefnogaeth ariannol i’r celfyddydau - ewch i Celf Cymru am fwy o fanylion. 


Gwybodaeth bellach

Ffoniwch 01286 679721 neu e-bostiwch celf@gwynedd.llyw.cymru