Grant i elusennau - Cronfa'r Degwm

Pwrpas Cronfa’r Degwm yw hyrwyddo a chefnogi gweithgareddau gan sefydliadau elusennol sydd o fudd i drigolion Gwynedd, ac yn cyfoethogi cymunedau Gwynedd.

 

Pwy all geisio am y grant?

Gall elusennau cofrestredig geisio am y grant hwn o Gronfa Degwm Cyngor Gwynedd, gan gynnwys:

  • eisteddfodau lleol
  • gweithgareddau celfyddydol
  • mudiadau addysg
  • mudiadau hamdden a chwaraeon
  • mudiadau cadwriaethol
  • elusennau sy’n cefnogi pobl wael neu bob anabl

Gweld meini prawf ac amodau llawn (Canllawiau)


Faint o arian sydd ar gael?

Mae’n bosib gwneud cais am unrhyw swm o arian, ond fel arfer bydd grantiau unigol yn tueddu i fod rhwng £100 a £3,000.


Sut mae gwneud cais am arian?

Er mwyn gwneud cais bydd angen i chi gwblhau'r ffurflen gais / ffurflen gais a’i dychwelyd drwy’r post i’r cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen. 


Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth am y grant, edrychwch ar yr meini prawf ac amodau llawn (Canllawiau)

Gallwch hefyd gysylltu drwy anfon e-bost i CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru neu drwy ffonio  01286 679153.