Clwyf Gwywiad Yr Onnen
Mae'r haint Clwyf Gwywiad Yr Onnen (Ash Dieback) yn broblem gynyddol sy'n effeithio coed onnen.
Mae disgwyl y bydd rhwng 80-90% o goed onnen y sir yn marw yn sgil yr haint. Gan bod yr onnen yn goeden gyffredin iawn yng Ngwynedd mae disgwyl y bydd effath sylweddol ar y Cyngor a pherchnogion tir preifat i reoli coed bregus.
Byddwn yn cydweithio efo perchnogion tir preifat i wneud yn siwr bod coed onnen sy’n tyfu ar dir preifat yn ddiogel. Byddwn hefyd yn gwneud yn siwr bod y coed onnen o gwmpas lonydd Gwynedd, llwybrau, lonydd glas a pharciau yn ddiogel.
Cyfrifoldeb perchnogion tir preifat
Dylai perchnogion tir preifat wneud eu hunain yn gyfarwydd â’r haint ac, os yn berthnasol, neilltuo cyllideb tuag at reoli’r coed heintus sydd ar eu tiroedd.
Rhoi gwybod am goeden onnen beryglus
Rhowch wybod i ni am goeden onnen sydd wedi marw neu’n mewn cyflwr difrifol ac yn achosi perygl:
E-bost: onnen@gwynedd.llyw.cymru
Ffon: 01766 771000
Cyn dechrau gwaith ar goed, mae’n ofynnol i ystyried yr effaith ar unrhyw greadur a’r cynefinoedd sy’n gysylltiedig â’r coed (e.e. adar sy’n nythu ac ystlumod a’u clwydi). Mwy o wybodaeth ar rywogaethau gwarchodedig.
Os oes Gorchymyn Diogelu Coed (GDC) yn y lleoliad, cysylltwch ag Adran Cynllunio’r Cyngor, ac os oes unrhyw ardal cadwraeth yn bodoli yn y lleoliad, cysylltwch â’r corff priodol.
Os gwelwch goeden neu gangen sydd wedi syrthio ar draws lôn neu balmant rhowch wybod i ni:
Am unrhyw fater arall i wneud â choed, e-bostiwch coed@gwynedd.llyw.cymru.