Cwynion Bwyd
Ambell waith gallwch brynu neu fwyta bwyd a diod sydd ddim yn cwrdd â’ch disgwyliad. Mae gan Gyngor Gwynedd ddyletswydd i ymchwilio i mewn i gwynion bwyd os yw’r bwyd wedi ei brynu o fewn y sir.
Ar achlysuron eraill efallai y byddwch angen cysylltu â’r Tîm Diogelwch Bwyd os ydych yn byw yng Ngwynedd ac eisiau gwneud cwyn am fwyd wedi’i brynu y tu allan i’r sir.
Plîs darllenwch y ddogfen Gwybodaeth cwynion Bwyd i weld enghreifftiau o gwynion bwyd cyffredin, sydd gan amlaf o ganlyniad i’r broses gynhyrchu a ddim yn risg i Iechyd cyhoeddus.
Adrodd pryder: bwyd neu eiddo bwyd
Os ydych yn bryderus am hylendid sefydliad bwyd yng Ngwynedd, e.e. os ydych wedi sylwi ar ymarferion hylendid bwyd gwael, wedi nodi fod lefel y glanweithdra mewn eiddo yn anfoddhaol neu nad yw eiddo yn arddangos eu Sgôr Hylendid Bwyd. Rhowch wybod i ni:
Adrodd pryder ar-lein: bwyd neu eiddo bwyd
Ymholiad
Os oes gennych ymholiad ynglŷn â hylendid sefydliad bwyd yng Ngwynedd, cysyltwch â ni:
Ymholiad ar-lein: bwyd neu eiddo bwyd
Neu ffoniwch 01766 771000.
Sylwer: Ni fydd Swyddogion Diogelwch Bwyd yn gallu eich helpu os ydych yn dymuno gwneud cais am unrhyw iawndal mewn perthynas â chwyn bwyd na ymchwilio i unrhyw gwyn di-enw.