Safonau bwyd

‘Mae’r gyfraith yn cyflwyno rheolau i reoli sut mae bwyd yn cael ei baratoi, ei gyfansoddiad a’i labelu’

Yn fras:

  • rhaid i’r ansawdd gwrdd â disgwyliad y cwsmer
  • rhaid i fwyd gael ei gyflwyno fel mae wedi’ ddisgrifio ac ni ddylai ei gyflwyno mewn ffordd a all gamarwain y cwsmer
  • ni chaniateir ychwanegu na thynnu un rhywbeth a all achosi niwed i Iechyd

Ar ei orau cyn: Mae’r term ‘ar ei orau cyn’ yn addas ar gyfer rhan helaeth o fwydydd. Mae’n ymwneud ag ansawdd y bwyd a beth yw’r cyfnod rhesymol i ddisgwyl i gynnyrch fod ar ei orau. Mae gan fanwerthwyr hawl i werthu bwyd ar ôl y dyddiad yma, cyn belled fod y bwyd yn ddiogel i’w fwyta.

Rhaid defnyddio cyn: Os yw bwyd yn fyrhoedlog ‘highly perishable’ yna mae rhaid labelu bwyd gyda’r term ‘ rhaid defnyddio cyn.’ Mae’r mathau yma o fwyd yn gallu rhagarwain at risg microbiolegol i’r cwsmer os yw’r bwyd yn cael ei werthu ar ôl y dyddiad yma ac felly yn fater diogelwch bwyd. Mae’n drosedd i werthu'r bwyd ar ôl y dyddiad.

Rhaid gwerthu cyn: Gall cynnyrch gael ei labelu gyda ‘rhaid gwerthu cyn’ neu ‘arddangoswch tan’ ond nid oes unrhyw ofyn cyfreithiol am fath dermau. Prif bwrpas eu defnydd yw ar gyfer cylchdroi stoc o fewn busnes. (Mae rheolau ar wahân ar gyfer wyau).

Mae’n gyffredin iawn dod ar draws amryw o honiadau ar fwydlenni busnesau bwyd. Yn aml mae’r honiadau yn cael eu defnyddio ar gyfer gwerthu'r cynnyrch yn atyniadol a gall fod yn arwydd o ansawdd

Gall honiadau amrywio o gig oen a chig eidion Cymreig sydd yn cael eu diogelu gan statws Ewropeaidd oherwydd  eu bod yn dod o ardal berthnasol, i fwyd fel caws Rouefort sydd yn cael ei ddiogelu oherwydd y dull unigryw o’i wneud yn defnyddio llefrith dafad a’i aeddfedu mewn ogofau yn Ffrainc

Gall honiadau eraill fod mewn perthynas â math arbennig o fwyd neu frand:

  • brecwast sydd yn cynnwys math penodol o ffa pob
  • cacen gaws sydd yn cynnwys math arbennig o wirodlyn
  • bod cig yn hanu o fferm benodol

Mae rhaid i fusnes gymryd gofal i sicrhau nad ydynt yn camarwain cwsmeriaid pam maent yn disgrifio bwyd ar eu bwydlen.

Enghreifftiau o ddisgrifiad camarweiniol mae Llywodraethau Lleol wedi eu darganfod

  • Llysiau wedi eu fflam rostio ond mewn gwirionedd wedi eu coginio mewn popty arferol
  • Peli cig ‘ wedi eu gwneud yn ffres’ wedi prynu gan gyfanwerthwr
  • ‘Cawl cartref’ yn dod allan o becyn gyda dŵr poeth yn cael ei ychwanegu i bowdwr

 

Cwynion Safonau Bwyd

Os am wneud cwyn Safonau bwyd mewn perthynas â busnes bwyd o fewn Gwynedd cysylltwch â’r Tîm Diogelwch Bwyd:

Adrodd pryder ar-lein - safonau bwyd 

 

Ymholiad Safonau Bwyd

Os oes gennych ymholiad yn ymwneud â safonau bwyd yng Ngwynedd, cysylltwch â ni:

Ymholiad ar-lein: Safonau bwyd

 Neu ffoniwch 01766 771 000 

 

 Cynllun Darparu Gwasanaeth Diogelwch Bwyd 

Gweld Cynllun Darparu Gwasanaeth Diogelwch Bwyd 2022-23