Coed mewn Ardaloedd Cadwraeth

Mae 40 o Ardaloedd Cadwraeth yng Ngwynedd (ac eithrio Parc Cenedlaethol Eryri).

I weld a yw'r goeden rydych yn bwriadu gwneud gwaith arni mewn Ardal Gadwraeth, ewch i'r:

Byddwch hefyd angen ystyried a yw’r goeden wedi ei gwarchod o dan Orchymyn Diogelu Coed.


Gwaith ar goed mewn Ardal Gadwraeth

Mae’n drosedd gwneud gwaith ar goeden (gyda bonyn sy'n fwy na 75mm (3") wedi ei fesur 1.5 medr (5") o uchder uwchben lefel y ddaear naturiol) mewn Ardal Gadwraeth heb roi o leiaf 6 wythnos o rybudd.

Mae hyn yn golygu torri unrhyw goeden neu rhai o ganghennau'r goeden, tocio, dadwreiddio, ayyb.

Gallwch gyflwyno rhybudd:

  • Drwy'r post: Lawrlwythwch y ffurflen Cais am waith ar goed (pdf) a'i dychwelyd i'r cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen ei hun
  • Ffôn: Ffoniwch 01766 771000 a gofyn i ffurflen bapur gael ei phostio i chi.

Bydd y Cyngor yn ymweld â'r safle er mwyn asesu'r cais. Mewn rhai achosion, bydd Gorchymyn Diogelu Coed yn cael ei osod ar y goeden.


Gwaith ar goeden beryglus / wedi marw mewn Ardal Gadwraeth

Os yw’r goeden wedi marw neu yn beryglus, bydd rhaid rhoi o leiaf 5 diwrnod o rybudd (ni fydd angen i chi gyflwyno cais ffurfiol i dorri'r goeden). 

Gallwch gyflwyno rhybudd:

  • Ar-lein: Ymholiad cyffredinol am gynllunio
    (bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
  • Drwy lythyr: wedi ei gyfeirio at y Gwasanaeth Cynllunio, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd. LL53 5AA


Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni:

COFIWCH! Os yw'r datblygiad o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, byddwch angen cysylltu gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri nid gyda Chyngor Gwynedd. I weld a yw'r datblygiad yn y Parc Cenedlaethol, edrychwch ar y map - Ardal Parc Cenedlaethol Eryri.