Apeliadau

Dim ond yr ymgeisydd sydd â'r hawl i apelio yn erbyn penderfyniad ar gais cynllunio. Nid oes gan drydydd parti (e.e. gwrthwynebydd) hawl i apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio. 

Os yw eich cais cynllunio yn cael ei wrthod, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi'r rhesymau. Os ydych yn anhapus am y rhesymau, neu os nad ydych yn eu deall, bydd adroddiad y pwyllgor neu'r swyddogion ar gael i'w ddarllen ar system Dilyn a Darganfod Ceisiadau Cynllunio y Cyngor, a ddylai roi rhagor o fanylion i chi am y penderfyniad. 

Noder bod y raddfa amser i apelio yn amrywio yn dibynnu ar fath y cais. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw cyflwyno apêl o fewn y graddfeydd amser perthnasol. Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Apeliadau Cynllunio Llywodraeth Cymru

Gallwch apelio yn erbyn

  • Yr amod(au) sydd ynghlwm â chais cynllunio wedi'i gymeradwyo
  • Cais cynllunio sydd wedi cael ei wrthod
  • Diffyg penderfyniad - os nad ydych wedi derbyn penderfyniad yn ysgrifenedig ynghylch eich cais cynllunio o fewn wyth wythnos (neu unrhyw gyfnod statudol perthnasol arall), ac os nad ydych wedi cytuno yn ysgrifenedig i ymestyn y cyfnod penderfynu. 

Ymdrinnir ag apeliadau gan Arolygiaeth Cynllunio Cymru, ond mae Cyngor Gwynedd yn ymgynghori ag unigolion a chyrff perthnasol eraill ar ran yr Arolygiaeth yn unol â gweithdrefnau apelio. Mae gwybodaeth bellach ynghylch Apeliadau a sut i gyflwyno apêl ar gael ar wefan Apeliadau Cynllunio Llywodraeth Cymru.

Rydym yn argymell eich bod yn ceisio negodi cais diwygiedig yn hytrach na chyflwyno apêl. Gallwch gyflwyno cais arall gyda chynlluniau diwygiedig am ddim o fewn 12 mis i ddyddiad y penderfyniad ar eich cais cyntaf. 

Os ydych yn ystyried ailgyflwyno eich cais ar ôl iddo gael ei wrthod, cynghorir chi yn gryf i ddefnyddio'r gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais.