Ffurflenni ceisiadau cynllunio

Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno eich cais cynllunio ar y we drwy ddefnyddio gwefan Ceisiadau Cynllunio Cymru.

 

 

Neu, gallwch lawrlwytho'r holl ffurflenni cynllunio o wefan Ceisiadau Cynllunio Cymru:

Ffurflenni Cais Cynllunio - lawrlwytho 

Os nad ydych yn siŵr pa ffurflenni sydd angen eu llenwi, cysylltwch â ni (manylion ar waelod y dudalen hon). 

Cofiwch anfon y wybodaeth berthnasol gyda'ch cais. Mae Nodiadau Canllaw'r ffurflen gais hefyd ar gael i'w lawrlwytho gyda'r ffurflenni ac yn rhestru pa ddogfennau sydd eu hangen arnoch, yn ddibynnol ar y cais.

Anfonwch y ffurflenni perthnasol wedi'u llenwi at: 

  • E-bost: Cynllunio@gwynedd.llyw.cymru
  • Post: Y Gwasanaeth Cynllunio, Cyngor Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd. LL53 5AA. 


Yn ogystal â'r ffurflenni safonol, mae’r ffurflenni hyn ar gael i'w lawrlwytho hefyd:

Furflenni Cynllunio
Rhif  FfurflenNodiadau arweiniad 
  Cyflwyno cais cynllunio mwynau a gwastraff Yn rhan o’r ffurflen
  Cais am dystysgrif o ddatblygiad amgen Yn rhan o’r ffurflen
  Cais i ddiwygio i ddileu rhwymedigaeth cynllunio

Ddim ar gael
  Rhybudd o gais i ddiwygio neu ddileu rhwymedigaeth cynllunio Yn rhan o’r ffurflen
  Cais am ddiwygiad ansylweddol ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi  
  Tystysgrif cydymffurfiaeth â'r anghenion hysbysu Ddim ar gael
  Rhybudd o gyhoeddusrwydd gan yr awdurdod cynllunio lleol Yn rhan o’r ffurflen
  Rhybudd o Gais Yn rhan o’r ffurflen
 

Hysbysiad ynghylch cychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiad

Yn rhan
o'r ffurflen
 

Hysbysiad o dan erthygl 24B(3)

Ynrhan o'r ffurflen

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gopi papur o'r ffurflenni cynllunio cysylltwch â ni: 

  • Ar-lein: Ymholiad cyffredinol am gynllunio
    Y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif. 
  • Ffôn: 01766 771000