Systemau Draenio Cynaliadwy

Mae Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) yn rheoli dŵr glaw mewn ffordd sy'n debyg i brosesau naturiol, gan ddefnyddio'r tirwedd a llystyfiant i reoli'r llif a chyfaint dŵr wyneb lle sy’n bosib.

Mae SDC yn rheoli dŵr ar yr wyneb neu’n agos ato, gan reoli’r llif a rhoi amrywiaeth o fanteision gan gynnwys;

  • Rheoli’r risg o lifogydd,
  • Gwella ansawdd dŵr,
  • Creu cynefinoedd a gwella bioamrywiaeth,
  • Cefnogi llesiant drwy ddod â phobl yn nes at fannau cymunedol gwyrdd a glas

Yng Nghymru mae angen Systemau Draenio Cynaliadwy ar gyfer:

  • pob datblygiad newydd o fwy nag 1 tŷ neu
  • lle mae’r arwynebedd adeiladu yn 100m2 neu fwy, i reoli dŵr wyneb ar y safle.

Rhaid i systemau draenio fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer draenio cynaliadwy. 

O 7 o Ionawr 2019 ymlaen, bydd Atodlen 3, Deddf Llifogydd a Rheoli Dŵr 2010 yn weithredol. Mae hyn yn golygu y bydd pob datblygiad newydd o fwy nag 1 tŷ neu ble mae'r ardal adeiladu yn 100m2 neu fwy, angen darparu systemau draenio cynaliadwy (SDC) ar gyfer rheoli dŵr wyneb. Mae ardal adeiladu yn cael ei ddiffinio fel unrhyw ran o'r safle sydd ag oblygiadau draenio, gan gynnwys adeiladau, mannau parcio ac ati. 

Mae'n rhaid i gynlluniau SDC gael eu cymeradwyo gan Gyngor Gwynedd, cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau. Bydd bob cais yn cael ei ystyried yn erbyn y safonau cenedlaethol Llywodraeth Cymru.  

Tra fod y broses o gymeradwyo cynlluniau draenio ar wahân i dderbyn caniatâd cynllunio, rydym yn annog datblygwyr i ystyried y ddau gynllun ar y cyd gan y gall y naill effeithio'r llall. Mae’n bwysig nodi nad yw'r gwaith adeiladu yn gallu dechrau heb ganiatâd cynllunio a chaniatâd SDC mewn lle.

Bydd gan y CCS ddyletswydd i fabwysiadu SDC sy'n gwasanaethu mwy nag un tŷ, ar yr amod fod ei swyddogaethau'n cyd-fynd â'r cynigion sydd wedi cael ei gymeradwyo, gan gynnwys amodau cymeradwyo CCS.

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:

E-bostccs@Gwynedd.llyw.cymru

Ffôn: 01286 679 355 / 01286 679 501

Cyfeiriad: Corff Cymeradwyo SDC, YGC, Swyddfa'r Cyngor, Pencadlys, Stryd y Jel, Caernarfon, LL55 1SH

Rydym am annog datblygwyr i gysylltu â Chorff Cymeradwyo SDC (CCS) cyn gynted â phosib wrth ddatblygu cynllun o'r newydd. Mae'n syniad da er mwyn trafod y gofynion penodol, a chael cymorth ynglŷn â disgwyliadau cyflwyno cais llawn.

Bydd yr awr gyntaf o’r gwasanaeth cyn-gais yn cael ei gynnig i ddatblygwyr yn rhad ag am ddim. Bydd ffi yn cael ei godi am unrhyw adborth pellach, ar gost i’r Cyngor. Bydd y ffi a lefel yr adborth yn cael ei gytuno rhwng y datblygwr a’r Cyngor cyn paratoi yr adborth pellach.

Mae ffurflen am wasanaeth gyn-gais ar gael yma

Am sgwrs anffurfiol, gellir cysylltu â'r CCS. Mae manylion cyswllt i'w gweld ar waelod y dudalen hon.

Os ydych yn barod i gyflwyno cais llawn i’r Corff Cymeradwyo SDC (CCS), mae’r ffurflen gais ynghyd â nodiadau ar sut i’w llenwi ar gael yma. Rydym yn annog ymgeiswyr i gwblhau y ffurflen ar ffurf electronig, a’i ddychwelyd dros e-bost at ccs@gwynedd.llyw.cymru. Wedi hynny, bydd y cais yn cael ei ddilysu, ac os yn gyflawn, bydd y ffi'n cael ei brosesu. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y ffi.

Rhaid cyflwyno ceisiadau llawn i’r CCS a rhaid cynnwys:

  • cynllun yn manylu ar yr ardal adeiladu a graddau’r system ddraenio;
  • gwybodaeth o ran y modd y bydd y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â Safonau SDC;
  • yr wybodaeth sy'n ddymunol yn ôl rhestr gyfeirio’r ffurflen gais;
  • a'r ffi priodol.

Mae cyfnod statudol o 7 wythnos wedi ei roi i’r CCS ar gyfer ystyried ceisiadau arferol, gyda 11 wythnos ar gyfer ceisiadau sydd angen Asesiad o Effaith Amgylcheddol fel rhan o’r ganiatâd Cynllunio. Byddwn yn ymdrechu i gyrraedd penderfyniad cyn gynted â phosib..

Bydd bob cais yn cael ei ystyried yn ôl safonau cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Dyma lincs i’r safonau cenedlaethol, a gwybodaeth defnyddiol eraill -

Safonau statudol ar systemau draenio cynaliadwy – dylunio, adeiladu, gweithredu, a chynnal a chadw systemau draenio dŵr wyneb

SuDS Wales

SuS Drains

Mae’r ffi'r Corff Cymeradwyo (SDC) ar gyfer cais llawn wedi ei bennu gan Lywodraeth Cymru, a’i gynnwys yn y Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018.

Mae ffi cais llawn yn dibynnu ar faint yr ardal adeiladu;

(a) £350 am bob cais, a

(b) swm ychwanegol hyd at uchafswm o £7,500 a gyfrifir drwy gyfeirio at faint yr ardal adeiladu fel a ganlyn —

(i) £70 am bob 0.1 hectar neu ffracsiwn o 0.1 hectar, am y 0.5 hectar cyntaf;

(ii) £50 am bob 0.1 hectar neu ffracsiwn o 0.1 hectar, o 0.5 hectar hyd at a chan gynnwys 1.0 hectar;

(iii) £20 am bob 0.1 hectar neu ffracsiwn o 0.1 hectar, o 1.0 hectar a hyd at a chan gynnwys 5.0 hectar;

(iv) £10 am bob 0.1 hectar ychwanegol neu ffracsiwn o 0.1 hectar sy’n fwy na 5.0 hectar.

 

Os mai Cyngor Cymuned yw’r ymgeisydd, mae’r ffi am gais hanner y swm a godir yn arferol.

Mae’n bwysig nodi y gall fod angen am daliadau eraill yn ychwanegol i’r ffi am gais, fel:

  • ffioedd archwilio'r gwaith
  • bond dros dro ar gyfer diogelu'r gwaith adeiladau
  • cynllun ariannu ar gyfer cynnal a chadw’r system ddraenio.

Bydd y costau'n dibynnu ar natur a maint y datblygiad, ac yn cael ei amlygu i’r ymgeisydd fel rhan o’r broses o gymeradwyo'r cais. Os ydych yn ansicr ar unrhyw agwedd o’r ffioedd, cysylltwch ar CCS. Gweler manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon.


Gwybodaeth ddefnyddiol 

Gwybodaeth ddefnyddio gan Dŵr Cymru ynglŷn â Systemau Draenio Cynaliadwy:

Dŵr Cymru - Systemau Draenio Cynaliadwy


Cysylltwch â ni:

E-bost: CCS@Gwynedd.llyw.cymru

Ffôn: 01286 679 501

Post: CCS Gwynedd, YGC, Cyngor Gwynedd, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1BN