Rheolaeth Adeiladu

Prif bwrpas Rheoliadau Adeiladu yw:

  • sicrhau safonau rhesymol o iechyd a diogelwch ar gyfer pobl mewn neu o amgylch adeiladau
  • cadwraeth ynni
  • mynediad a chyfleusterau i bobl ag anableddau

Mae Caniatâd Cynllunio a Rheolaeth Adeiladu yn ddau beth cwbl ar wahân.


Gwaith adeiladu sydd angen caniatâd

Bydd angen caniatâd Rheolaeth Adeiladu ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu, gan gynnwys:

  • codi adeilad newydd, ailgodi adeilad presennol neu newid defnydd adeilad
  • estyniad neu addasiadau i adeilad, gan gynnwys addasu ystafelloedd yn y to neu garej
  • gosod, gwneud addasiadau neu estyniad i wasanaeth cyfyngedig neu ei osodiadau mewn adeilad
  • gosod ffenestr(i) / drws (drysau) newydd
  • addasiadau strwythurol megis tynnu wal neu bared sy’n cynnal pwysau
  • gosod cyfarpar sy’n cynhyrchu gwres
  • addasiadau i system ddraeniad adeilad
  • ategwaith i’r sylfeini
  • gosod a gwneud addasiadau i’r rhan fwyaf o gylchedau trydanol mewn tai
  • addasiadau i fathau penodol o ‘elfennau thermol’ a gwasanaethau.

Mae’r lefelau diogelwch a safonau adeiladu sy’n dderbyniol wedi eu hamlinellu yn y Dogfennau Cymeradwy (Approved Documents). 

Os nad ydych yn sicr os ydych angen caniatâd Rheolaeth Adeiladu, cysylltwch â ni.


Cyflwyno cais rheolaeth adeiladu

Mae gwahanol fathau o gais rheolaeth adeiladu. Fel arfer mae’n bosib i chi ddewis y math o gais y byddwch yn ei gyflwyno, ond mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o fanteision ac anfanteision pob opsiwn

 

 Gweld Ffioedd Rheolaeth Adeiladu 2023/2024 

 Gweld hysbysiad preifatrwydd Rheolaeth Adeiladu

Gweld map cymunedau Rheolaeth Adeiladu  


Codi Estyniad i’ch Cartref 

Am gyngor ar wella cartrefi, rheoliadau adeiladu, contractau, gweithio gydag adeiladwyr a dylunwyr, caniatâd cynllunio a llawer mwy, ewch i wefan LABC Front Door.

 

Pan fydd gwaith adeiladu yn dechrau ar y safle

Bydd Syrfëwr Rheolaeth Adeiladu y Cyngor angen archwilio’r gwaith ar y safle yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn cwrdd â’r holl safonau adeiladu. 

Mae’n hanfodol bod yr adeiladwr neu’r perchennog yn hysbysu’r Syrfewr Adeiladu yn ystod camau penodol o’r gwaith. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad safle.


Dymchwel

Bydd yn ofynnol i unrhyw un sy’n bwriadu ymgymryd â gwaith dymchwel yn yr ardal i hysbysu Cyngor Gwynedd.

Gellir pennu rhai amodau yn ymwneud â’r dull yr ymgymerir â’r gwaith.


Tystysgrifau cwblhau

Pan fydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau yn unol â’r Rheoliadau Adeiladu, a’r Syrfêwr Rheolaeth Adeiladu yn fodlon bod yr holl archwiliadau priodol wedi eu cyflawni, byddwch yn derbyn tystysgrif cwblhau.

Y dystysgrif cwblhau yw eich sicrwydd fod y gwaith wedi ei archwilio gan Syrfëwr Rheolaeth Adeiladu cymwysedig a chyn belled ag y gellir ei ddarganfod yn rhesymol, mae’n cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu priodol.


Iechyd a Diogelwch

Os ydych yn gwneud gwaith adeiladu neu adnewyddu, mae’n bosib y bydd angen i chi hysbysu yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch oherwydd mae’n bosib y bydd gennych gyfrifoldebau ychwanegol. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

 

Nwy Radon

Mae pob adeilad yn cynnwys radon ond mae'r lefelau yn isel fel arfer. Mae cyfleoedd lefel uwch yn dibynnu ar y math o lawr. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cyhoeddi map yn dangos lle mae lefelau uchel yn fwy tebygol yng Nghymru a Lloegr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Nwy Radon