Cerbydau wedi eu gadael

Os oes car wedi ei adael yng Ngwynedd, rhowch wybod i ni drwy ffonio

  • 01766 771000

Byddwn yn ceisio delio gyda’ch cwyn cyn gynted â phosib er mwyn osgoi unrhyw sgil effeithiau negyddol ar y gymuned a’r amgylchedd.


Beth sy’n cael ei ystyried fel “cerbyd wedi ei adael”?

Cerbyd sydd wedi ei adael gan y perchennog heb unrhyw fwriad o ddychwelyd.

Ni ddylid adrodd am gerbyd fel un sydd wedi ei adael am y rhesymau canlynol yn unig:

  • Nad ydyw wedi ei drethu
  • Oherwydd ei fod mewn man parcio
  • Oherwydd fod y cerbyd mewn cyflwr blêr ac yn anharddu’r ardal

Os yw cerbyd yn rhwystro mynediad, yn rhwystro’r briffordd, neu wedi ei barcio yn beryglus rhowch wybod i’r Heddlu.


Am ragor o wybodaeth  ffoniwch 01766 771000