Cŵn peryglus

Os yw ci wedi ymosod ar rywun neu ar anifail arall, mae’n fater i’r heddlu a dylech gysylltu â nhw’n uniongyrchol. Ffoniwch 101 (neu 999 mewn argyfwng yn unig).

Os ydych yn poeni fod ci'n beryglus rhowch wybod i ni. Ceisiwch ddarparu cymaint o wybodaeth â phosib am y ci - brid, lliw, lleoliad ac ati:


Perchnogion cŵn peryglus

Mae mathau penodol o gŵn wedi’u gwahardd o’r Deyrnas Unedig. Mae'n drosedd bod yn berchen ar gi sydd wedi ei wahardd ac heb ei gofrestru.

Cofiwch, rhaid i bob ci o bob math yn cael microsglodyn adnabod. Os mewn man cyhoeddus, mae’n bwysig fod cŵn dan reolaeth perchennog, yn gwisgo coler efo tag, ac fod y perchennog yn glanhau llanast y ci ar eu hôl.

Cŵn XL Bully 

Mae’r ddeddf mewn perthynas â chŵn XL Bully hyn yn newid.Mae’n bwysig fod perchnogion y cŵn hyn, neu rhywun sy’n ystyried cael un o’r newydd, yn ystyried oblygiadau’r ddeddf yn ofalus ac yn paratoi o flaen llaw. 

O 31 Rhagfyr 2023 ymlaen, ni chewch:

  • werthu ci XL Bully,
  • adael i gi XL Bully grwydro,
  • rhoi ci XL Bully i rhywun arall,
  • magu cŵn bach XL Bully,
  • bod mewn lle cyhoeddus gyda chi XL Bully sydd heb dennyn na phenwar (muzzle). 

Os oes gennych gi XL Bully yn barod, neu’n cael un rhwng nawr a diwedd Rhagfyr, bydd rhaid cofrestru’r ci a chael Tystysgrif Eithrio. Er mwyn cael tystysgrif, mae’n ofynnol i’r perchennog sicrhau:

  • yswiriant priodol i’r ci
  • fod y ci wedi ei sbaddu (niwtro)
  • talu ffi am y dystysgrif. 

Gweld gwybodaeth am sut i gofrestru ci

Close