Crwner
Mae crwneriaid yn cofnodi ac yn ymchwilio i farwolaethau sydyn, annisgwyl a threisgar. Yr Uwch Grwner Ei Fawrhydi dros Ogledd Cymru (Gorllewin) ar gyfer Gwynedd a Môn yw Ms Kate Robertson LL.B (Anrh) sy'n gyfreithiwr.
Nid yw pob marwolaeth yn cael eu hadrodd i'r Crwner; ym mwyafrif yr achosion, gall Feddyg Teulu neu feddyg ysbyty roddi Tystysgrif Feddygol o achos y farwolaeth fel y gellir ei chofrestru gan y cofrestrydd.
Dylid adrodd am farwolaeth wrth y Crwner pan fydd meddyg yn gwybod neu ag achos rhesymol dros amau bod honno’n farwolaeth:
-
o ganlyniad i wenwyn, defnyddio cyffur rheoledig, cynnyrch meddyginiaethol, neu gemegyn gwenwynig;
-
a ddigwyddodd o ganlyniad i drawma, trais neu anaf corfforol, p'un ai a achoswyd yn fwriadol ai peidio;
-
sy’n gysylltiedig ag unrhyw driniaeth neu weithdrefn feddygol neu debyg ei natur;
-
a ddigwyddodd o ganlyniad i hunan-niwed, (gan gynnwys methiant gan y sawl a fu farw i gadw ei fywyd ei hun) boed yn fwriadol neu fel arall;
-
a ddigwyddodd o ganlyniad i anaf neu glefyd a gafwyd yn ystod, neu y gellir ei briodoli i, gyrfa waith y sawl a fu farw;
-
a ddigwyddodd o ganlyniad i ddamwain, gwenwyn, neu afiechyd hysbysadwy;
-
a ddigwyddodd o ganlyniad i esgeulustod neu fethiant o ran gofal gan berson arall;
-
a oedd fel arall yn annaturiol.
Dylai'r Crwner hefyd gael gwybod os:
-
digwyddodd y farwolaeth yn y ddalfa neu fel arall yng ngharchar y wladwriaeth - o ba bynnag achos;
-
na fu ymarferydd meddygol i weld yr ymadawedig ar unrhyw adeg yn y 14 diwrnod cyn y farwolaeth a bod dim ymarferydd meddygol ar gael o fewn cyfnod rhesymol i baratoi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth;
-
na ŵyr neb pwy yw’r ymadawedig;
-
nad yw’n hysbys beth oedd achos y farwolaeth.
Pan fydd marwolaeth wedi ei hadrodd i’r Crwner bydd yn rhaid i’r cofrestrydd aros i’r Crwner orffen ei ymholiadau cyn y gellir cofrestru’r farwolaeth. Gall yr ymholiadau hyn gymryd amser, felly cymeradwyir cysylltu â swyddfa’r Crwner cyn gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer angladd.
Bydd y crwner yn ceisio sefydlu achos meddygol y farwolaeth. Os bydd amheuaeth ynglŷn â’r achos yn dilyn post mortem, fe gynhelir cwest. Os bydd yr archwiliad yn dangos bod y farwolaeth yn un naturiol, mae’n bosib na fydd angen cwest ac fe wnaiff y crwner anfon ffurflen at y cofrestrydd marwolaethau fel y gall perthnasau gofrestru’r farwolaeth a fel y gall y cofrestrydd roi tystysgrif claddedigaeth.
Cwestau
Cynhelir cwest i gofnodi:
Pan ddeuir i gasgliad, bydd y Crwner yn cofnodi’r manylion sydd eu hangen er mwyn cofrestru’r farwolaeth.
Nid yw cwest yn penderfynu ynglŷn ag atebolrwydd sifil neu atebolrwydd troseddol ar ran rhywun a enwir.
Cwestau ar y gweill
Cwest Ysgrifenedig - wythnos yn cychwyn: 22/04/2024
Vincent Rothwell Williams – 85 oed, marw Blaenau Ffestiniog ar 02/03/2024
Llinos Wyn Parry – 58 oed, marw Ffestiniog ar 23/11/2023
23/04/2024 - Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH
Agoriad Ffurfiol - 09:00
David Neil Harrison – 56 oed, marw Bethesda ar 10/02/2024
Albert Lloyd – 92 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 16/04/2024
Cwest Llawn
09:30 – Emma Jane Batsford – 44 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 31/08/2022
12:30 – Annette Maria Flanagan – 62 oed, marw Llangoed ar 11/07/2022
13:30 – Peter Malkin – 84 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 28/05/2023
14:30 – Eleanor Owens – 68 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 25/02/2023
Cwest Ysgrifenedig - wythnos yn cychwyn: 25/04/2024
Colin John Cooper – 79 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 15/01/2024
Stephen Thomas Hughes – 62 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 15/11/2023
Cwest Ysgrifenedig - wythnos yn cychwyn: 29/04/2024
Iona Davies-Noutch – 93 oed, marw Caernarfon ar 27/01/2024
13/05/2024 - Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH
Ailddechrau Cwest - 09:30
Dylan Robert Lloyd Pritchard - 50 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 29/03/2022
15/05/2024 - Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH
Cwest Llawn
09:30 - Mark Anthony Joyce – 56 oed, marw Rhydymain ar 13/08/2023
11:00 – Robert John Symington – 73 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 28/12/2022
13:00 – Agnes Hillard – 73 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 05/09/2023
14:30 - Matthew James McPartland - 28 oed, marw Gellilydan ar 05/01/2024
21/05/2024 - Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH
Cwest Llawn
09:30 - Nerys Anne Parry – 71 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 13/11/2022
11:00 – Doreen Jordan – 90 oed, marw Ysbyty Bryn Beryl ar 20/07/2022
12:00 – Ian Mallon – 63 oed, marw Bangor ar 05/11/2023
14:00 – Robert Griffith Williams – 87 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 22/09/2023
28/05/2024 - Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH
Cwest Llawn
09:30 - Josephine Darnell – 83 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 21/06/2022
13:00 – Frances Anne Edwards – 81 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 07/06/2022
15:00 - Kelly Buffy Marie Jones – 42 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 21/09/2023
Cofrestru Marwolaethau
Os penderfyna’r Crwner bod angen cynnal cwest, ni chaiff y farwolaeth ei chofrestru nes bod y cwest wedi ei gwblhau, fodd bynnag rhoddir Tystysgrif Marwolaeth Dros Dro gan y Crwner hyd nes y gellir cofrestru’n llawn.
Wedi’r cwest, bydd y Crwner yn cofrestru'r farwolaeth gyda chofrestrydd yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth. Dyma lle mae swyddfeydd cofrestru Gogledd Cymru (Gorllewin):
Swyddfa'r Crwner
Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Crwner yn defnyddio'r manylion isod:
Cyfeiriad: Swyddfa Crwner Ei Mawrhydi, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
E-bost: crwner@gwynedd.llyw.cymru
Rhif ffôn: 01286 672 804