Cwestiynau ac atebion - priodas/partneriaeth sifil

 

Gall ymarfer seremoni gael ei gynnal mewn adeilad wedi’i trwyddedu. Nid yw’n bosib cynnal ymarfer mewn swyddfa gofrestru. I drefnu ymarfer cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000.

Pwrpas rhybudd ffurfiol ydi sicrhau eich bod yn breswylydd cymwys yn y sir ac eich bod yn rhydd ac yn gyfreithlon i briodi/ymrwymo i bartneriaeth sifil.

Bydd y rhybudd ffurfiol yn cael ei arddangos ar hysbysfwrdd cyhoeddus yn Siop Gwynedd Caernarfon. Bydd y Gwasanaeth Cofrestru yna’n paratoi eich tystysgrifau, sef  y dogfennau sy’n  rhoi awdurdod cyfreithiol i chi briodi neu yr atodlen sy’n rhoi awdurdod cyfreithiol i chi ymrwymo mewn partneriaeth sifil.

Mae'r tystysgrifau y byddwch yn eu derbyn ar ôl y cyfnod rhybudd ffurfiol (28 diwrnod) yn ddilys am flwyddyn o'r diwrnod y cafodd yr hysbysiad ei roi. Er enghraifft – pe baech yn rhoi y rhybudd ffurfiol ar 2 Ebrill 2019, bydd y tystysgrifau ar gael ar 1 Mai 2019, a byddant yn ddilys hyd 2 Ebrill 2020. 

Gall y seremoni gael ei chynnal ar unrhyw ddyddiad o fewn y cyfnod dilys (gweler cwestiwn uchod).  Bydd angen cytuno ar ddyddiad newydd gyda’r gwasanaeth cofrestru.  Ffoniwch 01766 771000. 

Os byddwch yn penderfynu newid lleoliad y seremoni wedi i chi roi y rhybudd ffurfiol, ni fydd eich tystysgrifau yn ddilys. Bydd rhaid cyflwyno rhybudd ffurfiol newydd a thalu'r ffioedd y byddwch wedi eu talu yn barod eto. Cysylltwch â ni ar 01766 771000.

Oes.  Mae’n rhaid i chi fod wedi byw yn yr ardal ble byddwch yn rhoi eich rhybudd ffurfiol am o leiaf 7 diwrnod cyn rhoi eich rhybudd ffurfiol. 

Cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000 

Na - nid oes gan unrhyw un arall hawl i roi hysbysiad ar eich rhan. Bydd yn rhaid i'r 2 ohonoch fynychu. 


Byddwch angen i chi ddod â:

  1. Unai pasbort neu dystysgrif geni (efallai y byddwn angen dogfennau eraill hefyd, mae’n bwysig i chi ofyn i’r Cofrestrydd beth yw’r gofynion diweddaraf).

  2. Prawf o'r cyfeiriad lle rydych yn byw: dogfen rhent neu dreth cyngor, bil gwasanaeth cyhoeddus diweddar/datganiad banc

  3. Statws priodasol / partneriaeth sifil (os yn berthnasol) 
    -  mewn achos ysgariad/gwahanu – tystysgrif archddyfarniad terfynol
    -  mewn achos profedigaeth – tystysgrif marwolaeth y cyn bartner

Mae'r rhestr uchod yn cyfeirio'n benodol at ddinasyddion y Deyrnas Unedig. Os oes un ohonoch yn ddinesydd o wlad arall a/neu wedi cael ysgariad mewn gwlad arall, dylech holi'r Gwasanaeth Cofrestru cyn trefnu apwyntiad i roi rhybudd ffurfiol.

 

Ffioedd seremoniau

 

Mwy o wybodaeth

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn ar y tudalennau hyn, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000.