Gallwch gysylltu i drefnu dyddiad ar gyfer y briodas gyda'r gwasanaeth cofrestru unwaith y byddwch wedi penderfynu eich bod am briodi. Fodd bynnag, bydd rhaid cyflwyno y rhybudd ffurfiol o fewn 12 mis i ddyddiad y briodas. Rydym yn eich cynghori i gysylltu mewn da bryd. Bydd dyddiad y seremoni yn cael ei chadarnhau unwaith y bydd y rhybudd ffurfiol wedi ei roi.
Wedi chi gyflwyno y rhybudd ffurfiol bydd rhaid aros am o leiaf 28 diwrnod clir rhwng y dyddiad pan rydych yn cyflwyno'r rhybudd ffurfiol a'r diwrnod y cewch gynnal y briodas. Er enghraifft - pe baech yn rhoi rhybudd ffurfiol ar y 1af o'r mis, y dyddiad cynharaf y gallwch gynnal y seremoni yw'r 30ain o'r mis hwnnw.
I drefnu apwyntiad i roi hysbysiad ffoniwch 01766 771000.