Gwybodaeth ar gyfer trefnwyr digwyddiadau
Trefnu eich digwyddiad
Digwyddiadau yn Ngwynedd
Mae digwyddiadau wedi llwyddo i annog balchder a chyfranogaeth gymunedol ond maent hefyd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i adfywiad economaidd a lles yr ardal ac wedi codi proffil Gwynedd ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae llwyddiant unrhyw ddigwyddiad, pa fo bynnag ei faint, parhad neu gynnwys yn dibynnu gan fwyaf ar ymrwymiad a gwaith caled llwyr y bobl hynny sy’n rhoi o’u hamser a’u hynni i drefnu’r gweithgareddau. Mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod fod trefnwyr unrhyw ddigwyddiad angen cefnogaeth ac adnoddau i ateb y gofynion, cyfyngiadau a chyfrifoldebau y mae trefnu digwyddiadau o’r fath eu hangen. I gynorthwyo â’r materion hyn mae’r Cyngor am weithio i gynorthwyo trefnwyr digwyddiadau i gynllunio a chyflawni ystod eang o ddigwyddiadau rheolaidd, cyraeddadwy, phroffidiol a chynaliadwy yn nhrefi, dinasoedd a phentrefi’r Gwynedd.
Canllaw ar gyfer cynllunio a llwyfannu digwyddiadau yng Ngwynedd (llyw.cymru)
Mae’r maes trefnu digwyddiadau yn cael ei ddylanwadu’n fawr gan wahanol ddeddfau a rheolaethau. Er mwyn eich cynorthwyo, rydym wedi paratoi cyfeirlyfr rhyngweithiol. Gall Y Llyfr Piws sy’n cael ei ddarparu gan y Fforwm Digwyddiadau Prydeinig hefyd fod yn fuddiol i chi:
Gwybodaeth Ddefnyddiol, Ceisiadau, a Thelerau ac Amodau