Academi Gofal Gwynedd

Ydych chi :

  • Eisiau gwneud gwahaniaeth?
  • Eisiau cefnogi pobl yn eu cymunedau?
  • Eisiau datblygu neu newid gyrfa i weithio yn y maes Gofal plant neu oedolion? 

Mae Academi Gofal Gwynedd yn gyfle gwych i chi ddatblygu eich gyrfa yn y maes Gofal drwy weithio gyda phobl brofiadol, derbyn cymwysterau a chael cyflog yr un pryd!

Gyda llwybrau amrywiol drwy'r Academi Gofal, p'un a ydych yn chwilio am rôl mewn Rheoli Gofal, dod yn Weithiwr Cymdeithasol neu'n Therapydd Galwedigaethol, mae posibilrwydd datblygu drwy’r academi i rôl sy'n addas i chi. Mae’r sector bob amser angen aelodau tîm brwdfrydig i gefnogi pobl ledled Gwynedd.

 

 

Mwy o wybodaeth 

Mae’r cynllun yn gyfle unigryw i unrhyw un ddatblygu gyrfa yn y sector Gofal yng Nghyngor Gwynedd. Byddwch yn derbyn profiadau ymarferol ac yn cael amryw o gyfleoedd i ddatblygu drwy gael eich mentora gan arbenigwyr yn y maes.  Bydd cyfleoedd datblygu parhaus ar gael i chi gael meithrin a datblygu eich sgiliau i sicrhau gyrfa hir a llwyddiannus o fewn gwasanaethau Gofal Cyngor Gwynedd.  

Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gwneud gwahaniaeth wrth gefnogi pobl yn eu cymunedau mae’r Academi Gofal yn berffaith i chi.

Mae llawer o fuddiannau i’w cael wrth i chi ymuno â’r Academi:

  • Ennill cyflog wrth ddysgu
  • Derbyn cefnogaeth a chymorth profiadol
  • Cwblhau cymwysterau o werth
  • Datblygu llwybrau gyrfa glir
  • Gweithio mewn awyrgylch Gymreig.
  • Bydd cyfle i chi fod yn rhan o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Byddwch chi’n elwa o ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu mewnol ac allanol am ddim. 

Mae’r buddiannau yn cael eu diweddaru yn gyson, dilynwch y linc am fwy o wybodaeth:

Buddion o weithio i ni 

  • Bydd angen TGAU gradd C neu gyfwerth ar ymgeiswyr llwyddiannus naill ai mewn Cymraeg neu Saesneg.
  • Mae’n ddymunol bod gan yr ymgeiswyr llwyddiannus TGAU Mathemateg gradd C neu gyfwerth, neu eu bod yn barod i weithio at gael y cymhwyster erbyn diwedd y drydedd flwyddyn o’r cynllun. Byddwch yn derbyn cefnogaeth i gyflawni hyn yn ystod eich amser ar y cynllun.
  • Cymraeg yw prif iaith y Cyngor. Mae gofyn bod gennych y gallu i gyfathrebu yn hyderus drwy’r Gymraeg neu eich bod yn dangos parodrwydd i fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau ieithyddol. Mae hyfforddiant yn cael ei gynnig i ddysgu Cymraeg ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, a hynny ar draws pob lefel.
  • Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy'n llawn cymhelliant, sydd ag agwedd garedig a gofalgar ac sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.

Byddwch yn cychwyn ar bwynt 3 o’r raddfa gyflog. Bydd eich hicyn cyflog yn codi yn unol â chymwysterau, profiad a chyfrifoldebau.

Gweld graddfeydd cyflog Cyngor Gwynedd

 

A oes terfyn oedran?
Nid oes terfyn oedran, ond mae angen i chi fod yn 17 oed neu'n hŷn i wneud cais am y swyddi hyn. 


Nid wyf yn gallu gyrru, ydw i yn gallu ymuno â’r academi?
Gallwch, rydym yn cynnig 10 gwers gyrru am ddim i'ch helpu i fynd ar y ffordd. 

Mi wnawn ein gorau i’ch lleoli mewn gwasanaeth agos i’ch cartref, fodd bynnag, bydd angen i chi allu teithio i wahanol weithleoedd ar draws y sir.


Mae gennyf radd yn barod, ydw i yn gymwys?
Ydych- rydym yn derbyn ceisiadau gan y rhai sydd eisoes wedi bod drwy addysg uwch, ond bydd angen i bob ymgeiswyr ddilyn strwythur addysgu’r Academi.


Oes angen talu ffioedd addysg?
Mae'r holl gyrsiau a chymwysterau rydych wedi cofrestru ynddynt fel rhan o'r Academi Gofal yn cael eu talu amdanynt yn llawn gan y Cyngor.

Beth os nad wyf am wneud yr holl gymwysterau?
Drwy gydol eich amser ar yr Academi Gofal byddwch yn derbyn cefnogaeth lawn i gyrraedd bob carreg filltir allweddol gan sicrhau y gallwch symud ymlaen i'r cymhwyster nesaf.  Os byddwch yn penderfynu ar un o'r cerrig milltir hyn nad ydych am symud ymlaen ymhellach, yna byddwn yn eich cefnogi i chwilio am swydd lawn amser o fewn y sector Gofal sydd yn cyfateb a’ch cymwysterau.

Pam mae angen Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan arnaf ar gyfer Iechyd a Gofal cymdeithasol (AWIF)?
Mae angen i chi fod wedi cwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (AWIF) fel rhan o'r cofrestriad i weithio fel gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru.  Mae hwn yn ofyniad gan Ofal Cymdeithasol Cymru.

Fframwaith sefydlu ar gyfer iechyd a gofal

 

Beth os nad ydw i'n llwyddo mewn lefel?
Byddwch yn cael eich cefnogi gan fentor o fewn eich lleoliad yn ogystal â chael cefnogaeth cydlynydd yr Academi.  Bydd y mentoriaid yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd i gyrraedd eich llawn botensial.


Ydych chi'n cefnogi pobl ag anableddau?
Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal, gyda chymorth ar gael i'ch helpu i gyflawni eich nodau gyrfa.


Beth yw hyd y cynllun?
Bydd hyd y cynllun yn dibynnu ar y llwybr gyrfa rydych yn penderfynu ei ddilyn.

A oes sicrwydd swydd ar ddiwedd y cynllun?
Bydd pob ymdrech posibl yn cael ei wneud i sicrhau bod yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael pob cyfle posib i dderbyn swydd wedi’r cynllun.

Oes angen profiad yn y maes penodol cyn gallu ymgeisio am y swydd?
Nac oes, nid oes angen profiad blaenorol. Bydd angen i chi ddangos eich bod yn berson sensitif, gonest a dibynadwy gyda’r gallu i weithredu mewn modd sy’n parchu hawliau’r unigolion bob amser ac yn dangos parodrwydd i ddatblygu.

 

 

Cofrestru diddordeb

Cofrestrwch eich diddordeb neu cysylltwch am sgwrs

Cofrestu Diddordeb: Academi Gofal Gwynedd

Neu e-bostiwch:  gofalu@gwynedd.llyw.cymru