Grant cyfleusterau i bobl anabl
Dyma grant penodol am waith i ddarparu cyfleusterau ar gyfer addasiadau i anheddau er budd pobl anabl yn eu prif gartref. Mae enghreifftiau o’r math o waith y gellir ei gyflawni yn cynnwys:
- gosod cawodydd mynediad gwastad
- lifftiau grisiau
- addasu ystafelloedd
- estyniadau
- mynediad i eiddo
Mae uchafswm grant o £36,000, ond mewn achosion arbennig gellir caniatau ychwanegu benthyciad dewisol, drwy gyfrwng Benthyciad Dewisol Cyfleusterau i’r Anabl (BDCA). Mae rhagor o wybodaeth am y benthyciad i’w gael yn y daflen Grant Cyfleusterau i'r Anabl
Sut mae gwneud cais?
Yr unig ffordd y mae derbyn y grant hwn yw drwy gael eich cyfeirio’n ffurfiol gan Therapydd Galwedigaethol yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Gallwch gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod:
Gweld map llawn
1. Ardal Llŷn
2. Ardal Caernarfon
3. Ardal Bangor
4. Ardal Eifionydd a Gogledd Meirionnydd
5. Ardal De Meirionnydd
Y Prawf Modd
Mae’n reidrwydd statudol fod pob grant yn ddarostyngedig i brawf modd. Gellir gwneud prawf modd rhagarweiniol cyn cael unrhyw gyfeiriad gan Therapydd Galwedigaethol os dymunir. Os yw’r gwaith angenrheidiol ar gyfer plentyn anabl, ni fydd rhaid cymryd prawf adnoddau.
Y Broses
Bydd yr Adran yn derbyn cyfeiriad gan Therapydd Galwedigaethol, ac wedyn yn cysylltu a chi er mwyn llenwi ffurflen gais a chynnal prawf Adnoddau ffurfiol. Bydd amserlen ar gyfer unrhyw waith addasu yn ddibynol ar maint a natur yr addasiad ond fydd pob ymdrech yn cael ei wneud i gwblhau’r gwaith yn amserol. Swm y grant a gymeradwyir fydd y gwahaniaeth rhwng cost gyfan y gwaith cymwys, a’ch cyfraniad chi fel a benderfynir drwy’r prawf adnoddau.
Oes yna unrhyw Amodau?
Oes, mae amodau ynghlwm â’r grant. e.e. rhaid i chi brofi perchnogaeth o’r eiddo, a rhaid talu eich cyfraniad (os oes un) yn llawn cyn dechrau unrhyw waith. Mae rhestr llawn i’w gweld yn y daflen Grant Cyfleusterau i'r Anabl
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar y daflen Grant Cyfleusterau i'r Anabl neu cysylltwch cysylltwch â ni:
Uned Grantiau a Phrosiectau
Adran Tai ac Eiddo
Cyngor Gwynedd
Cae Penarlag
Dolgellau
LL40 2YB
01341 424351