Asesiadau Awtistiaeth

Os ydych yn amau bod chi neu eich plentyn yn awtistig, y cam cyntaf yw siarad efo’ch meddyg teulu. 

Neu, gallwch ofyn am gyngor gan unrhyw swyddog iechyd arall yr ydych yn eu gweld, er enghraifft eich therapydd, ymwelydd iechyd, seicolegydd neu gynrychiolydd tîm iechyd meddwl cymunedol. Os yw'r plentyn yn oed ysgol, gallwch hefyd drafod gyda'r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn ysgol eich plentyn 

Bydd y sgwrs/apwyntiad yma yn gyfle i chi

  • adrodd y rhesymau yr ydych yn meddwl eich bod chi neu’r person arall yn awtistig.
  • gofyn am gyfeiriad am asesiad awtistiaeth.

Mae'n bosib y bydd eich meddyg teulu yn eich helpu i lenwi ffurflen yn cofnodi eich symptomau (neu symptoma eich plentyn), ac yn llofnodi eich caniatâd i fynd ymlaen efo’r cyfeiriad. Bydd yr asesiad awtistiaeth yna cael ei gynnal gan arbenigwr mewn awtistiaeth. 

Nid yw meddygon teulu na Thim Awtistiaeth Cyngor Gwynedd yn gallu cynnal yr asesiadau eu hunain.

Cliciwch ar y pennawdau isod am fwy o wybodaeth am asesiadau:

Os yr ydych yn gofyn am gyfeiriad ar ran plentyn, byddwch yn cael eich cyfeirio at dim diagnostig, sef grŵp o arbenigwyr gwahanol sy’n gweithio efo’i gilydd i asesu os ydi eich plentyn efo awtistiaeth.

Gall y grŵp yma gynnwys seicolegydd, seiciatrydd, paediatregydd, therapydd lleferydd ac iaith, ymysg eraill.

Bydd un aelod o’r tîm yma yn gweithredu fel cydlynydd achos, sef yr unigolyn a fydd yn gweithredu fel eich pwynt cyswllt cyntaf yn ystod y cyfeiriad. Y person yma fydd yn eich diweddaru ar unrhyw ddatblygiadau, ateb eich cwestiynau, ac yn casglu unrhyw wybodaeth fydd ei angen i helpu efo’r asesiad, er enghraifft, gan ysgol, doctor neu weithiwr cymdeithasol perthnasol y plentyn.

Bydd sawl apwyntiad gwahanol i’r asesiad, a gall barhau am rai misoedd. Yn eich sesiwn olaf bydd y Tîm yn adrodd os ydi’ch plentyn efo awtistiaeth yn eu barn nhw, ac yn gyrru adroddiad ysgrifenedig i chi yn rhestru eu rhesymau.

Os ydych yn meddwl bod eich plentyn yn awtistig, y cam cyntaf yw siarad efo’ch meddyg teulu. 

Os ydych yn gofyn am gyfeiriad ar ran eich hun, neu ar ran oedolyn arall, byddwch yn cael eich cyfeirio i’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (GAI)

Bydd y GAI yn neilltuo tîm i weithio efo chi i greu asesiad mor drylwyr a phosib. Bydd y tîm yn cynnwys arbenigwyr gwahanol megis nyrs, seicolegydd, seiciatrydd, therapydd galwedigaethol, ymarferydd arbenigol awtistiaeth ac yn y blaen. Bydd un o’r rhain yn gweithredu fel cydlynydd achos a fydd yn eich diweddaru chi, ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Mae’n debyg bydd sawl apwyntiad gwahanol dros gyfnod o rai misoedd. Bydd y tîm yn mynd dros eich plentyndod, eich datblygiad, ac yn gyffredinol y rhesymau yr ydych yn meddwl yr ydych efo awtistiaeth. Gall hyn fod yn brofiad emosiynol a heriol ond bydd eich cydlynydd achos ar gael i gynnig unrhyw gefnogaeth a fydd angen.

Os ydych yn meddwl eich bod yn awtistig ac am gael asesiad, y cam cyntaf yw siarad efo’ch meddyg teulu. 

Mae gofalwyr di-dal yn ffynhonnell hanfodol o gynhaliaeth a chymorth i llawer o bobl efo anghenion ychwanegol, yn cynnwys rhai pobl awtistig.

Os ydych yn rhiant, brawd neu chwaer, ffrind neu gymydog sy’n darparu gofal anffurfiol i unigolyn awtistig, mae’n holl-bwysig felly eich bod yn cael eich cefnogi hefyd, er mwyn eich lles chi a’r unigolyn yr ydych yn gofal amdano.

Gallwch ddewis os ydych eisiau asesiad i chi fel gofalwr ar ben eich hun, neu os ydych eisiau asesiad ar y cyd efo’r person yr ydych yn gofalu amdano.

Os ydych yn gofalu am unigolyn awtistig, bydd swyddog o’r Tim Awtistiaeth yn dod i’ch cyfarfod. Byddwch yn cael y cyfle i drafod eich cyfrifoldebau gofal a unrhyw heriau yr ydych yn wynebu.

Bydd y gweithiwr yn eich helpu i wirio pa wasanaethau neu gymorth ychwanegol fyddai'n fuddiol i chi.


Gwneud cais am asesiad gofalwr

I wneud cais am asesiad gofalwr, cysylltwch â Gwasanaeth Oedolion Cyngor Gwynedd:

Cais am asesiad gofalwr: Cysylltu â'r Gwasanaeth Oedolion

Gweld mwy o wybodaeth am gymorth i ofalwyr di-dâl.