Os yr ydych yn gofyn am gyfeiriad ar ran plentyn, byddwch yn cael eich cyfeirio at dim diagnostig, sef grŵp o arbenigwyr gwahanol sy’n gweithio efo’i gilydd i asesu os ydi eich plentyn yn awtistig.
Gall y grŵp yma gynnwys seicolegydd, seiciatrydd, paediatregydd, therapydd lleferydd ac iaith, ymysg eraill.
Bydd un aelod o’r tîm yma yn gweithredu fel cydlynydd achos, sef yr unigolyn a fydd yn gweithredu fel eich pwynt cyswllt cyntaf yn ystod y cyfeiriad. Y person yma fydd yn eich diweddaru ar unrhyw ddatblygiadau, ateb eich cwestiynau, ac yn casglu unrhyw wybodaeth fydd ei angen i helpu efo’r asesiad, er enghraifft, gan ysgol, doctor neu weithiwr cymdeithasol perthnasol y plentyn.
Bydd sawl apwyntiad gwahanol i’r asesiad, a gall barhau am rai misoedd. Yn eich sesiwn olaf bydd y Tîm yn adrodd os ydi’ch plentyn yn derbyn diagnosis awtistiaeth neu beidio ac yn gyrru adroddiad ysgrifenedig i chi yn rhestru eu rhesymau.
Gweld mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Niwroddatblygiadol Betsi Cadwaladr