Gwasanaeth Micro Ofalwyr Cymunedol

Beth ydi micro ofalwyr?

Yn y rhan fwyaf o achosion mae micro ofalwyr yn gynorthwywyr personol hunangyflogedig. Gallwch ddewis defnyddio micro ofalwr i’ch cefnogi i barhau i fyw’n annibynnol. 

Maent yn cynnig gwasanaethau fel:

  • Ci am dro
  • Mynd â pherson i siopa
  • Helpu yn yr ardd
  • Ayyb......
  • Wedi ei deilwra yn benodol i anghenion yr unigolyn?? 

 

Faint mae’r gwasanaeth yn ei gostio?

Mae cyfradd micro ofalwyr yn gallu amrywio. Y gyfradd mae Cyngor Gwynedd yn dalu i gyflogi menter ydi £16 yr awr ar gyfer 2024-25. Fe all rhai micro ofalwyr  ddewis codi mwy na hyn yr awr. Trafodwch gyda’ch gweithiwr cymdeithasol. 

Mae’n bosib talu am y gwasanaeth drwy ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol. Trafodwch gyda’ch gweithiwr cymdeithasol.

 

 

Sut mae gwneud cais am wasanaeth gan ficro ofalwr?

I drafod defnyddio gwasanaeth micro ofalwr cysylltwch gyda’ch Gweithiwr Cymdeithasol. 

Neu, gallwch gysylltu’n uniongyrchol gyda’r darparwr micro ofal. Noder: Os ydych yn trefnu yn uniongyrchol gyda’r darparwr micro ofal bydd rhaid talu’n breifat ac ni fydd yn bosib talu drwy daliadau uniongyrchol

 

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am y cynllun micro ofalwyr, cysylltwch â:

 

Ystyried sefydlu Micro Ofalu eich hun?

Os ydych yn ystyried sefydlu gwasanaeth Micro Ofalu eich hun, cysylltwch â ni. Mae Catalydd Cymunedol Gwynedd ar gael i gynorthwyo unigolion i sefydlu menter ‘micro ofal’ drwy redeg cwrs Hyfforddi ‘Ei Wneud yn Iawn’ (Doing it Right). 

Manylion cyswllt Catalydd Cymunedol Gwynedd:

Close