Cymorth i ofalwyr di-dâl
Os ydych yn teimlo'ch bod yn ofalwr, gallwch ofyn am asesiad gofalwr, os nad ydym wedi cynnig un i chi yn barod. Dyma gyfle i chi drafod eich cyfrifoldebau gofalu â ni, fel y gallwn ni weld sut y gallech fanteisio ar gymorth neu wasanaeth ychwanegol.
Cewch chi benderfynu a ydych am gael eich asesu ar y cyd â'r person rydych yn gofalu amdano ynteu ar wahân.
Cymorth i gael y gorau o'ch asesiad
Gwneud cais am asesiad gofalwr
I drefnu asesiad gofalwr, cysylltwch â ni:
Cysylltu â ni
Beth mae asesiad gofalwr yn ei olygu?
Bydd gweithiwr cymdeithasol yn trefnu i ddod i'ch gweld. Byddant yn sgwrsio gyda chi er mwyn canfod pa help rydych ei angen fel gofalwr a beth sy'n bwysig i chi fel gofalwr. Gallwch hefyd drafod unrhyw broblemau neu drafferthion. Efallai y byddwch eisiau trafod pethau fel:
- ydych chi'n cael digon o gwsg?
- ydi gofalu'n effeithio ar eich iechyd?
- ydych chi'n cael cyfle i grwydro neu fynd am dro?
- ydych chi'n cael amser i chi'ch hun?
- ydych chi'n poeni am orfod rhoi'r gorau i'r gwaith?
Bydd yr asesiad yn nodi pa fath o help rydych ei angen a sut gallwch ei gael. Byddwch yn cael copi o’r asesiad.
Pa help ydw i'n debygol o'i gael?
Gall y gefnogaeth sydd ar gael gynnwys seibiant o ofalu, mynediad at hyfforddiant, gwahoddiadau i ddigwyddiadau gofalwyr a chael eich cyfeirio at wasanaethau perthnasol.
Dylid nodi bod meini prawf cymhwysedd yn golygu nad yw pob gofalwr yn gymwys i dderbyn gwasanaeth yn uniongyrchol gan y Cyngor.
Os oes gennych unrhyw bryder neu gwestiwn, cofiwch ofyn!
Cymorth i gael y gorau o'ch asesiad
Canllaw i Ofalwyr - argyfyngau