Amser Ni

 

amser ni

Cyfaill i blant gydag anghenion ychwanegol 

Mae Amser Ni yn mynd a phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol ar weithgareddau hwylus gan gynnwys aros dros nos.

Fel gwirfoddolwr bydd disgwyl i chi sicrhau bod pawb yn hapus ac yn cael amser da.

Byddem hefyd yn disgwyl ichi gymryd rhan yn y gweithgareddau a gynlluniwyd.

Bydd y bws yn eich nôl a danfon adref.

Telir am fwyd a gweithgareddau.

 

 

· Ymuno â theulu ar eu siop fwyd wythnosol.

· Ymuno â theulu ar weithgaredd.

· Cefnogaeth yn y cartref teuluol gyda'r plentyn.

· Mynd a plentyn am ddiwrnod allan.

Bydd hyfforddiant anwytho yn cael ei ddarparu ar gyrsiau perthnasol fel Cymorth Cyntaf pediatrig a diogelu. Bydd y cyrsiau hyn yn rhad ac am ddim, yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy i chi a byddant yn edrych yn wych ar eich CV!

Na. Fodd bynnag, os oes gennych chi un, efallai y byddwch chi'n gallu mynd â'r teuluoedd allan i'r gymuned. Caiff costau tanwydd eu had-dalu.

Bydd gennych Swyddog Egwyl Fer a all eich cynorthwyo yn y rhan fwyaf o bethau. Drwyddynt bydd gennych fynediad i arbenigedd  Derwen. 

Does dim oriau penodol, gallwch wirfoddoli cyn lleied â phosib neu gymaint ag y dymunwch. Mae'r oriau hyn yn hyblyg a gellir eu teilwra i gyd-fynd â chi a'r teuluoedd y byddwch yn eu cefnogi.

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch:

07901 103 149

amserni@gwynedd.llyw.cymru

Facebook Amser Ni