Cynnig Gofal Plant Cymru
Beth yw'r cynnig?
Gall rhieni a gwarcheidwaid wneud cais am ofal plant ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos. Gall gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau (perthynas neu ffrind nad yw’n rhiant plentyn) wneud cais hefyd.
Mae 30 awr yr wythnos yn cynnwys:
I fod yn gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru:
- rhaid eich bod yn byw yng Nghymru
- ni chaiff incwm gros rhiant fod yn fwy na £100,000 y flwyddyn
Yn ogystal, rhaid i chi hefyd fodloni un o'r meini prawf canlynol:
- yn gyflogedig ac yn ennill o leiaf, ar gyfartaledd, yr hyn sy’n cyfateb i weithio 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu Gyflog Byw.
- ar Gyflog ac Absenoldeb Statudol (Sâl, Mamolaeth, Tadolaeth, Rhiant, Profedigaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu)
- wedi cofrestru ar gwrs addysg bellach neu uwch sydd o leiaf 10 wythnos o hyd
Pryd mae eich plentyn yn dechrau ar y cynnig
Mae'ch Plentyn yn troi'n 3 rhwng? | Pryd mae eich plentyn yn dechrau ar y cynnig? |
1 Medi i 31 Rhagfyr |
Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ionawr |
1 Ionawr i 31 Mawrth |
Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ebrill |
1 Ebrill i 31 Awst |
Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Medi |
Gwneud cais
Dilynwch y ddolen isod i wefan LLYW.CYMRU i wneud cais;
Gwneud cais: 30 awr o ofal plant ar gyfer plant 3 a 4 oed (LLYW.CYMRU)
Mwy o wybodaeth:
Gwybodaeth i Ddarparwyr Gofal Plant
Cysylltwch â ni:
Y rhieni sy’n gyfrifol am ddod o hyd i ofal plant sydd yn cwrdd â’u hanghenion; fodd bynnag, gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i deuluoedd roi manylion am y gofal plant sydd ar gael yn eich ardal. Cysylltwch naill ai â:
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd