Gadael gofal

Mae’r Tîm 16+ yn helpu pobl ifanc 16 - 21 oed (neu 24 os mewn addysg llawn amser) sydd wedi bod mewn gofal i symud ymlaen a byw bywyd annibynnol a llwyddiannus. 

Gall gadael gofal fod yn un o’r cyfnodau anoddaf ym mywyd person ifanc. Felly mae'n hanfodol eu bod yn cael eu paratoi’n drylwyr a’u cefnogi. 

 

Mae gwaith y Tîm 16+ wedi'i seilio ar Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000. Gall y Tîm:

  • baratoi pobl ifanc ar gyfer gadael gofal, a'u cefnogi unwaith y byddant yn byw’n annibynnol
  • helpu'n ymarferol a rhoi cyngor ar anghenion llety, arian, addysg, hyfforddiant a gwaith
  • delio â cheisiadau am wasanaeth a chyfarfod â phobl ifanc fel bo’r angen
  • cefnogi pobl ifanc mewn cyfarfodydd
  • helpu pobl ifanc 16 a 17 oed sy'n ddigartref. 

Mae’r Tîm yn gweithio gyda gofalwyr, asiantaethau tai a iechyd, a phobl broffesiynol eraill.  Rydym yn gwrando ar ddymuniadau pobl ifanc ac yn seilio'r gefnogaeth ar yr hyn maen nhw ei eisiau.

 

Cysylltu â ni

  • Ffôn: 01286 682646
  • E-bost: TimOl16@gwynedd.llyw.cymru
  • Tîm 16+, Gwasanaethau Cymdeithasol, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1BN