Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
Beth yw gwaith y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid?
- cyd-weithio â phobl ifanc rhwng 10 a 17 oed sydd wedi troseddu, neu mewn peryg o droseddu, yna
- eu hasesu a chynnig cymorth.
Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys staff Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf ac Iechyd. Rydym hefyd yn cydweithio'n agos gydag asiantaethau eraill sy'n gallu helpu.
Mwy o wybodaeth
Ein prif nod yw atal troseddu.
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn yma ar gyfer
- Plant a phobl ifanc
- Rhieni a hofalwyr
- Dioddefwyr troseddau gan bobl ifanc
Cysylltu â ni
Ffôn:
01248 679 183
E-bost:
youthjusticeservices@gwynedd.llyw.cymru
Cyfeiriad:
Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn,
Swyddfa Menai
Glan y Môr,
Felinheli,
LL56 4RQ
Oriau agor y swyddfa yn Felinheli:
- Dydd Llun i ddydd Gwener: 09:00 a.m. – 5:00 p.m.
Plant a phobl ifanc
Bydd plentyn neu berson ifanc sydd wedi troseddu yn cael eu cyfeirio atom ni gan yr Heddlu neu'r Llysoedd.
Ein nod ni wedyn fydd atal troseddu pellach.
Y cam cyntaf yw asesu. Byddwn yn sgwrsio gyda'r person ifanc a dod i gasgliad sut fedrwn eu helpu cadw allan o drafferthion eto. Byddwn hefyd yn sgwrsio â'u rhieni/gofalwyr ac asiantaethau eraill.
Mae pob cynllun ywedi ei deilwra i'r unigolyn yn dilyn asesiad.
Panel Cymunedol
Gwirfoddolwyr yw aelodau’r panel cymunedol
Bwriad y panel yw cytuno ar ffyrdd o:
- leihau'r risg o ail droseddu a newid ymddygiad y troseddwr
- rhoi cyfle i'r person ifanc wneud yn iawn am eu trosedd
Mae'r Panel yn helpu gyda:
- lleihau troseddu yn eich ardal chi
- rhoi tawelwch meddwl i bobl yn eu cymuned
- sicrhau fod llais dioddefwyr yn cael ei glywed
- gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc
Awydd ymuno?
Rhaid i aelodau'r panel fod yn o leiaf 21 mlwydd oed.
Does dim angen cymwysterau na phrofiad. Ni fydd record droseddol yn eich gwahardd rhag bod yn aelod. Bydd GCIGM yn ei hyfforddi a byddwn yn eich cefnogi drwy gynnig hyfforddiant parhaus trwy gydol eich amser yn gwirfoddoli.
Rhaid i chi gytuno i wasanaethu am o leiaf dwy flynedd.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Rhieni a Gofalwyr
Rydym yn helpu rhieni / gofalwyr wrth ddatblygu eu hyder wrth ddelio gyda'u plant / pobl ifanc mewn modd bositif gan ddatblygu sgiliau ymdopi newydd.
Mae’r gwasanaeth rhiantu yn cynnwys:
- Gwaith 1 i 1
- Sesiynau grŵp
- Dysgu sut i osgoi ffraeo a delio gydag ymddygiad anodd person ifanc
- Gosod ffiniau
Dioddefwyr troseddau
Nid oes rhaid i chi gyd-weithio gyda'r gwasanaeth hwn pan fyddwn yn cysylltu â chi'n dilyn digwyddiad. Nid oes rhaid i chi ateb.
Byddwn yn gofyn pa effaith gafodd y drosedd arnoch. Byddwn hefyd yn rhoi cyfle i chi ddechrau deialog gyda'r unigolyn a oedd yn gyfrifol os byddwch yn dymuno. Gallwch awgrymu lle rydych chi'n meddwl y dylai'r person ifanc wneud rhywfaint o waith yn y gymuned, neu dderbyn llythyr eglurhad / ymddiheuro neu gyfarfod â'r person ifanc wyneb yn wyneb.
Hyd yn oed os nad ydych yn fodlon cymryd rhan pan fyddwn yn cysylltu â chi am y tro cyntaf, gallwch gysylltu â ni nes ymlaen. Rydym yn gweithio yn unol â'r Cod Ymarfer Cenedlaethol ar gyfer Dioddefwyr Troseddau a gyhoeddir gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.
Datganiad Preifatrwydd