Help i dalu am ofal plant

Mae'n bosib y gallwch gael help i dalu am ofal plant os ydych yn defnyddio darpariaeth gofal plant sydd wedi cofrestru, er enghraifft

  • gwarchodwr plant, meithrinfa, cylchoedd meithrin, cynllun chwarae neu glwb
  • gwarchodwr plant gydag asiantaeth gwarchod plant gofrestredig neu asiantaeth gofal plant

Dyma beth a allai fod ar gael i chi:

 

  • Cynllun gofal plant di-dreth:  Help gyda chostau gofal plant i deuluoedd sy’n gweithio. 
  • Gofal Dechrau'n Deg: Mae hyd at 12.5 awr o ofal plant ar gael ar gyfer plant rhwng 2-3 oed am ddim yn ystod y tri thymor ysgol os yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg.  Defnyddiwch y gwiriwr cod post i weld os ydych chi'n gymwys am y cynllun ai peidio.

  • Gofal Plant 2 oed: Gall teuluoedd sydd yn byw o fewn codau post penodol dderbyn hyd at 12.5 awr o Ofal Plant am ddim y tymor ar ôl i'r plentyn gael ei benblwydd yn 2 oed.
  • Cynnig Gofal Plant Cymru:  Gall rhieni i blant 3 a 4 oed sy’n gweithio ac sy’n gymwys gael hyd at 30 awr o addysg a gofal plant.
  • Credyd Treth PlantHelp i deuluoedd sy’n gweithio ac sydd ar incwm isel. 
  • Credyd Treth GwaithHelp i deuluoedd sy’n gweithio ac sydd ar incwm isel.
  • Credyd CynhwysolEfallai y byddwch yn gallu hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant yn ôl os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. 
  • Cyllid Myfyrwyr CymruMae’n bosib y gall myfyrwyr mewn addysg uwch sy’n gymwys hawlio cymhorthdal gofal plant yn ddibynnol ar y cwrs maen’t yn ei wneud. 
    Mae hefyd yn bosib y gall myfyrwyr mewn addysg bellach yng Nghymru hawlio cymorth gyda chostau gofal plant gan y Gronfa Wrth Gefn Ariannol. Gofynnwch am wybodaeth yn swyddfa cymorth i fyfyrwyr eich coleg.
  • Credydau Yswiriant Cenedlaethol: Os ydych yn daid neu’n nain neu aelod arall o’r teulu yn gofalu am blentyn o dan 12 oed, fel arfer tra bo’r rhiant neu’r prif ofalwr yn gweithio. 

Am gyngor pellach cysylltwch a Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: