Mabwysiadu

Mae mabwysiadu plentyn yn golygu dod yn deulu iddo am oes.

Mae'r broses yn cynnwys:

  • cyfnod o hyfforddiant ac asesu cyn cael eich cymeradwyo
  • adnabod anghenion y plentyn, a chanfod teulu sy'n cwrdd â'r anghenion hynny
  • cyfnod o gyflwyno a symud i mewn
  • cymeradwyo'r mabwysiadu gan y llys - dod yn rhieni cyfreithiol y plentyn.

Gall y broses o gael cymeradwyaeth ac aros fod yn hir, ond mae'r gwasanaeth wedi helpu llawer o fabwysiadwyr a phlant lleol i gael bywyd newydd gyda'i gilydd fel teulu.

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru'n wasanaeth sy'n cyfuno timau mabwysiadu yng Ngwynedd, Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy ac Ynys Môn. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ganfod teuluoedd lleol ar gyfer plant yng ngogledd Cymru.

 

Rhagor o wybodaeth

Am wybodaeth bellach neu becyn gwybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru.