Maethu

Gallwch wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn lleol heddiw.

Rhywun sy’n gofalu am blant pan nad ydynt yn gallu byw gyda’u teuluoedd eu hunain yw Rhiant Maeth. Gall y cyfnod o ofal amrywio o ychydig o ddyddiau i ychydig o flynyddoedd. Mae maethu’n gallu cynnwys edrych ar ôl plant o bob oedran, o fabanod i bobl ifanc yn eu harddegau. Gallwch ddewis pa oedran fyddai orau i’ch teulu. Rydym yn argymell eich bod yn maethu plant sy’n iau na’ch plentyn hynaf.

Mae Gwasanaeth Maethu Gwynedd yn trefnu lleoliadau i blant lleol ac yn rhoi pwyslais ar gefnogaeth o ansawdd uchel, amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi i ofalwyr maeth a grwpiau cefnogi lleol.

 

Cwestiynau cyffredin 

Gallwch. Os byddwch yn maethu plant o dan 5 mlwydd oed neu blant sydd ar gynllun arbenigol, rydym yn gofyn i un rhiant fod gartref yn ystod y dydd. 

Rhaid i chi fod ag ystafell sbâr. Dylai plant sy'n cael eu maethu gael ystafell wely ar wahân i'ch plant eich hunain. Dim ond os ydych yn maethu brodyr a chwiorydd neu blant o dan 5 oed o'r un rhyw y gallent rannu ystafell wely. Rydym yn eich cynghori i roi ystafell wely ar wahân i bob plentyn. Mae hynny’n caniatáu i’ch plentyn chi neu i’r plentyn maeth gael ei le ei hun. Mae babanod yn gallu cysgu yn ystafell y rhiant maeth, ond bydd yn rhaid iddynt gysgu mewn ystafell sbâr neu rannu ystafell erbyn iddynt gyrraedd 2 flwydd oed. 

Byddwch yn cael 'lwfans maethu i helpu talu biliau’r cartref. Fel y byddwch yn datblygu’ch gyrfa mewn gofal maeth, byddwch hefyd yn derbyn ‘taliadau am sgiliau’. Gallwch gael taliad blynyddol o dan rai cynlluniau arbenigol.

Gallwch. Gallwch ddewis plentyn o oedran a fyddai’n cydweddu orau â’ch teulu. Gallwch ofyn am gael newid yr ystod oedran neu ryw os bydd eich amgylchiadau’n newid. Rydym yn argymell eich bod yn maethu plant sy’n iau na’ch plentyn hynaf. Os ydych yn gweithio'n llawn amser neu'n ysmygu, argymhellwn i chi faethu plentyn oedran ysgol. 

Bydd ar asesiad yn cymryd 6 mis o leiaf. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu cymeradwyo fel gofalwyr maeth ymhen 12 mis ar ôl eu hymholiad cyntaf.

I fod yn ofalwr maeth, rhaid i chi gael eich asesu’n drylwyr i weld a yw maethu’n addas i chi. Mae’n rhaid archwilio’ch cefndir i asesu a fyddai plant yn ddiogel yn eich gofal. Rydym hefyd am ddod i’ch adnabod chi gan ein bod am wneud yn siŵr bod maethu yn llwyddo a’ch bod chi, eich teulu a’r plant yn eich gofal yn elwa. 

Bydd y plant y mae angen eu maethu o’r oedran a’r rhyw rydych wedi nodi, ond mae pob un yn wahanol iawn. Mae rhai wedi’u cam-drin, efallai eu bod wedi’u hesgeuluso neu fod eu rhieni’n ei chael yn anodd gofalu amdanyn nhw a’u cadw’n ddiogel. Nid oes gan rai teuluoedd unrhyw rwydwaith cefnogi i’w helpu yn ystod cyfnod anodd neu gyfnod o salwch ac mae angen gofalu am y plentyn tra caiff problemau eu datrys neu nes bydd eu hiechyd yn gwella.

Bydd y rhieni’n cael gwybod ble mae’u plant yn byw os byddwn ni’n ystyried bod hynny’n diogel. 

 

 

Mwy o wybodaeth