Tîm Integredig Plant Anabl

Mae Derwen, y Tîm Integredig Plant Anabl, yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc 0 - 18 oed yng Ngwynedd, ac yn darparu cefnogaeth arbenigol i blant:

  • ag amhariad / oediad yn eu datblygiad
  • anabl
  • â gwaeledd.

Mae Derwen yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd. 

Mae Gwasanaeth Derwen yn cynnig gwasanaeth i plant sydd hefo: Anabledd neu oedi datblygiadol sylweddol lle nad yw gwasanaethau prif ffrwd yn gallu diwallu eu anghenion arbenigol. 

Diffinir anabledd fel amhariad corfforol neu feddyliol sy'n effeithio yn anffafriol ac yn sylweddol dros dymor hir ar allu unigolyn i gyflawni gweithgareddau beunyddiol arferol. 

Tudalen Facebook Derwen

 

Beth mae Derwen yn ei gynnig?

  • un rhif ffôn i gysylltu â’r Tîm
  • cyngor a gwybodaeth
  • asesiad cychwynnol gan Swyddog Dyletswydd
  • mewnbwn proffesiynol i gwrdd ag anghenion y plentyn
  • adolygiad amlasiantaethol o anghenion y plentyn
  • hawl i asesiad o anghenion y gofalwr
  • egwyl fer. Mae ein 'datganiad egwyl fer' wedi ei hatodi ar waelod y dudalen hon. 

Pwy sy'n gallu cyfeirio plentyn at Derwen?

  • y plentyn / person ifanc ei hun
  • rhiant / gofalwr
  • person proffesiynol (â chaniatâd y teulu) 

Pwy sy'n gweithio i Derwen?

  • Swyddog Dyletswydd
  • Nyrsys Cymuned (Datblygiad Plant)
  • Seicolegwyr Clinigol
  • Gweithwyr Cymdeithasol
  • Swyddog Cyswllt Addysg
  • Swyddogion Gwasanaethau Cefnogol
  • Therapydd Galwedigaethol (Addasiadau)
  • Swyddog Gwybodaeth 

 

Llawlyfr Oed Trosglwyddo

Mae pen-blwydd person ifanc yn 14 yn gyfnod cyffrous ac ansicr, pan fydd yn paratoi i drosglwyddo o wasanaethau plant i fywyd fel oedolyn. Mae'r llawlyfr hwn yn ateb rhai o'r cwestiynau a all godi ac yn eich helpu wrth i chi wneud penderfyniadau at y dyfodol.

 

Cysylltu â ni

  • Arfon
    Ffôn: 01286 674686
    Bron Hendre, Lôn Parc, Caernarfon, LL55 2HP
  • Dwyfor
    Ffôn: 01758 704429
    Canolfan Frondeg, Ala Uchaf, Pwllheli, LL53 5BL
  • Meirionnydd
    Ffôn: 01341 424503
    Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 1YB

 

Datganiad preifatrwydd Derwen