Tîm Integredig Plant Anabl

Mae Derwen, y Tîm Integredig Plant Anabl, yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc 0 - 18 oed yng Ngwynedd, ac yn darparu cefnogaeth arbenigol i blant:

  • ag amhariad / oediad yn eu datblygiad
  • anabl
  • â gwaeledd.

Mae Derwen yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd. 

Mae Gwasanaeth Derwen yn cynnig gwasanaeth i plant sydd hefo: Anabledd neu oedi datblygiadol sylweddol lle nad yw gwasanaethau prif ffrwd yn gallu diwallu eu anghenion arbenigol. 

"Diffinir anabledd fel amhariad corfforol neu feddyliol sy'n effeithio yn anffafriol ac yn sylweddol dros dymor hir ar allu unigolyn i gyflawni gweithgareddau beunyddiol arferol." - (Deddf Cydraddoldeb 2010)

Tudalen Facebook Derwen

 

  • un rhif ffôn i gysylltu â’r Tîm
  • cyngor a gwybodaeth
  • asesiad cychwynnol gan Swyddog Dyletswydd
  • mewnbwn proffesiynol i gwrdd ag anghenion y plentyn
  • adolygiad amlasiantaethol o anghenion y plentyn
  • hawl i asesiad o anghenion y gofalwr
  • egwyl fer. Mae ein 'datganiad egwyl fer' wedi ei hatodi ar waelod y dudalen hon. 

  • y plentyn / person ifanc ei hun
  • rhiant / gofalwr
  • person proffesiynol (â chaniatâd y teulu) 

  • Swyddog Dyletswydd
  • Nyrsys Cymuned (Datblygiad Plant)
  • Seicolegwyr Clinigol
  • Gweithwyr Cymdeithasol
  • Swyddog Cyswllt Addysg
  • Swyddogion Gwasanaethau Cefnogol
  • Therapydd Galwedigaethol (Addasiadau)
  • Swyddog Gwybodaeth 

 

Llawlyfr Oed Trosglwyddo

Mae pen-blwydd person ifanc yn 14 yn gyfnod cyffrous ac ansicr, pan fydd yn paratoi i drosglwyddo o wasanaethau plant i fywyd fel oedolyn. Mae'r llawlyfr hwn yn ateb rhai o'r cwestiynau a all godi ac yn eich helpu wrth i chi wneud penderfyniadau at y dyfodol.

 

Cysylltu â ni

  • Arfon
    Ffôn: 03000 840967
    Bron Hendre, Lôn Parc, Caernarfon, LL55 2HP
  • Dwyfor
    Ffôn: 01766 771000
    Swyddfeydd y Cyngor, Dwyfor, Ffordd y Cob, Pwllheli
  • Meirionnydd
    Ffôn: 01341 424503
    Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 1YB

E-bost: Derwen@gwynedd.llyw.cymru

 

Datganiad preifatrwydd Derwen

Mwy … Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad : Manylion am y gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer y plant a phobl ifanc  ADYaCh - Cartref