Dewis Cymru - rhoi gwybod am ddigwyddiad

Mae gwefan ‘Dewis Cymru’ yn rhannu gwybodaeth am wasanaethau, sefydliadau, mudiadau a digwyddiadau sy'n cefnogi unigolion yn eu cymuned. 

Gwefan Dewis Cymru

Wrth edrych drwy ‘Dewis Cymru’ fe welwch bod nifer o wasanaethau a gwybodaeth statudol arno yn barod. Ond rydym eisiau gweld gwybodaeth am eich clybiau, dosbarthiadau neu ddigwyddiadau ar wefan Dewis Cymru hefyd.

  

Rhowch wybod i Dewis Cymru am eich grŵp, clwb neu ddigwyddiad   

Os yw eich gweithgaredd yn digwydd yn rheolaidd, mae lle iddo ar ‘Dewis Cymru’. Gall y rhain fod yn llu o ddigwyddiadau gwahanol o gorau i Ferched y Wawr i gwis tafarn, o wersi jiwdo i glwb darllen. Gadewch i ‘Dewis Cymru’, gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd, hyrwyddo eich gweithgareddau, a hynny’n rhad ac am ddim!    

Mae ‘Dewis Cymru’ yn wefan hawdd i’w defnyddio ond os ydych angen unrhyw gymorth fe fyddwn ni yno i chi. Felly, beth am fynd amdani?

Dewis Cymru: Rhoi gwybod am eich digwyddiad

Ar ôl mynd i wefan Dewis Cymru bydd angen i chi gofrestru, ac yna clicio ‘rheoli eich adnoddau’.  

    

Cysylltu â ni 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn mae croeso i chi gysylltu â ni:

Gall staff yn Llyfrgell Dolgellau a Llyfrgell Bangor hefyd eich helpu pe bai angen.