Help i hawlio budd-daliadau
Os ydych yn derbyn unrhyw wasanaeth gofal megis gofal cartref neu gofal preswyl/nyrsio gan y Gwasanaethau Oedolion, gall yr Uned Incwm a Lles gynnig cyngor annibynnol ynglyn ȃ’r budd-daliadau rydych yn gymwys i'w hawlio.
Mae'r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig yn cynnwys:
- ymweliadau cartref i asesu pa fudd-daliadau rydych yn gymwys i’w derbyn
- cyngor dros y ffôn
- cymorth i gwblhau ffurflenni cais am fudd-dal/asesiad ariannol
- eirioli ar eich rhan gydag asiantaethau megis y Gwasanaeth Pensiwn
- eich cynrychioli mewn apeliadau / tribiwnlysoedd
- cyngor ynglyn a lwfansau/grantiau cymorth sydd ar gael
- eich arall-gyfeirio i asiantaethau eraill am gymorth
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda’r Uned Incwm a Lles:
Os nad ydych yn derbyn unrhyw wasanaethau gofal gan y Gwasanaethau Oedolion ac felly ddim yn gymwys i dderbyn cymorth gan yr Uned Incwm a Lles, gall y sefydliadau canlynol gynnig cyngor i chi: