Rhywun i siarad ar fy rhan
Eiriolwr yw rhywun sy’n eich cefnogi i gyfathrebu eich anghenion, helpu i archwilio opsiynau ac yn cyflawni pethau ar eich rhan.
Beth mae eiriolwr yn ei wneud?
- gwneud yn siŵr fod pobl yn gwrando arnoch ac yn rhoi atebion i chi
- rhoi llais i chi
- hyrwyddo delweddau cadarnhaol
- gweithio fel bod pethau’n digwydd ac yn newid
- eich cefnogi i wneud penderfyniadau a chymryd mwy o reolaeth
- gweithio dros hawliau cyfartal a chynhwysiant.
Beth nad yw eiriolwr yn ei wneud
- cynghori
- mynd â rheolaeth oddi arnoch
- chwarae rôl gweithiwr cymdeithasol
- llenwi bylchau yn y gwasanaethau ddylai gael eu darparu.
Sut ydw i’n cael eiriolwr?
Cysylltwch ag un o’r darparwyr eiriolaeth annibynnol hyn:
Cymdeithas Cyngor ac Adfocatiaeth Gogledd Cymru - NWAAA
Hyrwyddo a darparu adfocatiaeth i bobl sydd dan anfantais oherwydd anabledd, salwch, oedran neu eu bod ar y tu allan i gymdeithas, yng ngogledd Cymru’n bennaf.
Maent hefyd yn cynnig cefnogaeth benodol i bobl sydd yn derbyn, neu'n awyddus i dderbyn Taliadau Uniongyrchol.
Gwasanaeth Adfocatiaeth Gogledd Cymru Tros gynnal
Mae Gwasanaeth Adfocatiaeth Gogledd Cymru yn darparu cymorth eiriolaeth i blant a phobl ifanc cymwys. Mae’r gwasanaeth yn ceisio gwneud yn siŵr fod pob person ifanc yn cael y cyfle i gael eu clywed, a bod rhywun yn ystyried eu barn, dymuniadau a theimladau wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Bydd eiriolwyr profiadol yn cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau ac yn rhoi’r grym iddynt wneud dewisiadau.