Asesiad Gwasanaeth Cymdeithasol
Mae pob un ohonom eisiau rheolaeth dros ac o fewn ein bywydau a’n dymuno byw mor annibynnol a diogel â phosib, ond oherwydd salwch neu amgylchiadau arbennig, weithiau rydym angen cefnogaeth ychwanegol. Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd i asesu eich hanghenion a sicrhau eu bod yn cael eu diwallu yn y ffordd sydd orau i chi. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gyfraith sy'n rhoi mwy o lais i chi am y gofal a'r cymorth a gewch. Mae'n rhoi mwy o bwyslais ar hyrwyddo annibyniaeth pobl i roi llais a rheolaeth gryfach iddynt.
Mae Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol ac Ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol yn gweithio o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor. Mae’n bosib y bydd y gweithwyr mwyaf priodol yn ymweld â chi er mwyn cwblhau asesiad ble byddent yn cael sgwrs gyd-weithredol gyda chi.
Beth fydd yn digwydd yn dilyn asesiad?
Yn dilyn asesiad, os byddwch yn cwrdd â’r meini prawf isod, bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydweithio â chi drwy eich cefnogi, trefnu neu ddarparu cefnogaeth (bydd cost ynghlwm â hyn gan amlaf):
Eich bod chi’n profi un neu fwy o’r anawsterau isod sy’n deillio o afiechyd corfforol, oedran, anabledd, neu amgylchiadau tebyg eraill:
- Cwblhau tasgau hunanofal (e.e. bwyta ac yfed; cynnal hylendid personol; codi a gwisgo amdanoch; symud o gwmpas y cartref; paratoi prydau bwyd; cadw’r cartref yn lân, yn ddiogel ac yn hylan) neu arferion domestig.
- Gallu i gyfathrebu.
- Amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod.
- Ymglymiad mewn gwaith, addysg, dysgu neu mewn gweithgareddau hamdden.
- Cynnal neu ddatblygu perthnasoedd teuluol neu rai personol eraill o bwys.
- Datblygu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol ac ymglymiad yn y gymuned.
Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol ond yn gallu eich cefnogi gyda’r uchod os nad yw’r angen yn gallu cael ei ddiwallu:
- Gennych chi eich hun; neu
- Gyda gofal a chymorth eraill sy’n fodlon darparu’r gofal a’r cymorth hwnnw; neu
- Gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned; ac
- Eich bod yn annhebygol o sicrhau un neu fwy o’ch canlyniadau personol oni bai fod y Cyngor yn darparu neu yn trefnu gofal a chymorth i ddiwallu’r angen; neu bod Cyngor Gwynedd yn galluogi’r angen i gael ei ddiwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol.
Er mwyn eich cefnogi i gwrdd â’r angen eich hunan, dyma asiantaethau a allai eich cefnogi (bydd disgwyl i chi fod yn hunan-ariannu rhai o’r ymyraethau isod):
Cefnogaeth oherwydd cyflwr acíwt (h.y. nid yw’n hirdymor):
- Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwneud ag unigolion sy’n dioddef o gyflyrau hirdymor. Os ydych chi neu aelod o’ch teulu wedi ei effeithio gan gyflwr acíwt (e.e. haint dŵr) ac angen cefnogaeth yn sgil hyn, bydd angen i chi gysylltu gyda Thîm Therapi Cymunedol y Bwrdd Iechyd Lleol.
- Os ydych chi neu aelod o’ch teulu angen cefnogaeth o fewn pythefnos o ddychwelyd adref o’r ysbyty bydd angen i chi gysylltu gyda Thîm Therapi Cymunedol y Bwrdd Iechyd Lleol.
- Arfon – 03000 851 591.
- Dwyfor – 03000 850076
- Eifionydd a Gogledd Meirionnydd - 01766 510300