Cais am asesiad
Beth ydi asesiad?
Sgwrs yw ‘asesiad’. Mae’n ein cynorthwyo i ddarganfod beth sy'n bwysig i chi nawr ac yn y dyfodol i’ch cadw’n iach a diogel. Byddwn yn siarad am y pethau sy’n mynd yn dda a phethau sydd ddim cystal yn eich bywyd nawr. Byddwn yn gofyn i chi sut fywyd byddech yn ei ddymuno a beth hoffech ei gyflawni.
Gyda'n gilydd byddwn yn nodi pa gryfderau a / neu adnoddau sydd ar gael i chi. Byddwn yn siarad am y bobl o'ch cwmpas ac yn eich cymuned. Efallai y byddant yn gallu ac yn barod i’ch helpu goresgyn rhwystrau, a chyflawni'r hyn sy'n bwysig i chi.
Dylai asesiadau fod yn briodol ac yn gymesur i ddiwallu eich anghenion cyfathrebu a diwylliannol. Dylai ystyried eich cryfderau a'r rhwystrau i gyflawni beth sy'n bwysig i chi.
Mae pum elfen i 'asesiad'. Mae'n rhaid i'r rhain gael eu hystyried cyn y gellir gwneud penderfyniad am eich anghenion gofal a chefnogaeth a sut y gellir eu diwallu.
Y pump yw:
- Amgylchiadau Personol
- Amcanion Personol (yr hyn sy’n bwysig i chi)
- Rhwystrau i gyflawni’r hyn sy’n bwysig i chi
- Eich cryfderau a’ch galluoedd
- Risgiau
Beth fydd yn digwydd yn dilyn asesiad?
Gall yr asesiad arwain at rannu cyngor am y gwasanaethau ataliol sydd ar gael a byddwn yn trafod sut i gael mynediad iddynt. Neu gall yr asesiad arwain at ddatblygu Cynllun Gofal a Chymorth wedi ei reoli.
Gallwn roi gwybodaeth i chi dros y ffôn, yn electronig ac ar daflenni papur, neu gallwn eich cyfeirio at rywun all eich helpu. Bydd gwybodaeth berthnasol ac amserol yn eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir.
Faint fydd rhaid aros am asesiad?
Pan fo brys mawr, argyfwng neu risg difrifol o niwed, anelwn at gychwyn yr asesiad o fewn 24 awr. Os ydych yn gymwys, byddwn yn trefnu i’r gwasanaeth gychwyn yn syth. Wrth ddweud ‘os ydych yn gymwys’, golygir
- bod eich amgylchiadau yn ymwneud â salwch corfforol neu feddyliol
- bod newid i’ch gallu i gynnal arferion megis gofalu am eich gofal personol a chynnal eich cartref
- nad ydych yn gallu cyflawni'r hyn sydd yn bwysig i chi ar ben eich hun neu gyda chymorth a chefnogaeth teulu, ffrindiau neu gefnogaeth sydd ar gael gan y gymuned neu'r trydydd sector.
- Ei bod yn annhebygol y bydd yn bosib i chi gyflawni'r hyn sydd yn bwysig i chi heb gymorth gan yr awdurdod lleol
Fel arall byddwn yn cysylltu â chi i drefnu amser yr asesiad.
Sut mae gwneud cais am asesiad?
I wneud cais am asesiad cysylltwch â ni:
Cais am asesiad: Cysylltu â ni