Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Beth yw Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid?

Mae Tîm Gwasanaeth Cyfiawnder Gwynedd a Môn yn cyd-weithio a phobl ifanc rhwng 11 a 17 oed sydd wedi troseddu. Rydym yn asesu a rhoi cymorth iddynt.  Mae'r gwasanaeth yn cynnwys staff o'r gwasanaethau cymdeithasol, addysg, yr heddlu, y gwasanaeth prawf ac iechyd. Rydym hefyd yn cydweithio'n agos gydag asiantaethau eraill sy'n gallu helpu.

 

Ein prif nod yw atal troseddu.

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn yma ar gyfer

  • Plant a Phobl ifanc
  • Rhieni a Gofalwyr
  • Dioddefwyr troseddau gan bobl ifanc

Ffôn

01248 679 183

E-bost

youthjusticeservices@gwynedd.llyw.cymru

Ymweld â ni

Dewch ci'n gweld yn ein swyddfa yn Felinheli!

Cyfeiriad

Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn,
Swyddfa Menai
Glan y Môr,
Felinheli,
LL56 4RQ

Oriau agor

  • Dydd Llun i Ddydd Gwener - 09:00 - 17:00

Bydd plentyn neu berson ifanc sydd wedi troseddu yn cael eu cyfeirio aton ni gan yr Heddlu neu'r Llysoedd.

Ein nod ni wedyn fydd atal troseddu pellach.

Y cam cyntaf yw asesu. Byddwn yn trafodgyda'r person ifanc am eu bywyd er mwyn darganfod cymaint ag y gallwn er mwyn gweld sut allwn, gyda'n gilydd helpu'r person ifanc i beidio mynd i drwbwl yn y dyfodol. Byddwn yn siarad gyda'r

  • plentyn/ person ifanc
  • eu rhieni/ gofalwyr
  • asantiaethau eraill

Mae mor bwysig ein bod yn siarad a gymaint o bobl a sy'n bosib sy'n adnabod y plentyn/ person ifanc er mwyn cael darlun llawn. Ar ôl gwneud hyn byddwn yn ysgrifennu adroddiad a chytuno ar gynllun efo'n gilydd ynglyn â'r ffordd ymlaen.

Mae pob cynllun yn wahanol gan fod pob unigolyn yn wahanol. Pwrpas yr asesu fydd gwneud yn siwr ein bod ni gyda'n gilydd yn gweithio ar gynllun sy'n addas i'r unigolyn.

Gwirfoddolwyr yw aelodau'r panel cymunedol

Bwriad y panel yw dod i gytundeb gyda'r person ifanc ynglyn  â sut maent am:

  • wella eu hymddygiad troseddol
  • atal troseddu pellach
  • cyfle i'r person ifanc wneud yn iawn am y niwed a achosir i'r dioddefwr

Mae'r Panel yn helpu tuag at:

  • leihau troseddu yn eich ardal chi
  • wneud i bobl deimlo yn fwy diogel yn eu cymuned
  • sicrhau fod llais dioddefwyr yn cael ei glywed
  • gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc

Awydd ymuno?

Rhaid i aelodau'r panel fod yn oleiaf 21 oed.
Nid oes angen cymwysterau na phrofiad. Eich cymeriad chi fel person yw'r peth pwysicaf.  Rydym yn chwilio am aelodau sydd yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardaloedd maent yn byw ynddynt. Dylech fod o gymeriad da er na fydd troseddau yn euch gwahardd. Bydd GCIGM yn rhoi hyfforddiant cychwynnol i chi  a byddwn yn eich cefnogi drwy gynnig hyfforddiant parhaus trwy gydol eich amser yn gwirfoddoli.

Rhaid i chi gytuno i wasanaethu am oleiaf dwy flynedd.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Angen gwybodaeth am pa gymorth sydd yna i rieni a gofalwyr

Rydym ni eisiau i bobl ifanc sydd wedi troseddu ddeall yr effaith mae hyn wedi ei gael ar y dioddefwyr. Rydym yn cysylltu â dioddefwyr a gofyn iddynt siarad gyda'r person ifanc a cyflawnodd y drosedd.

Ein bwriad yw fod pobl ifanc sydd wedi troseddu yn deall effaith a dylanwad yr hyn maent wedi ei gyflawni ar eu cymuned a gobeithio lleihau ail-droseddu.

 

Ydych chi yn ddioddefwr?

Os ydych wedi dioddef trosedd a cafodd ei gyflawni gan blentyn neu berson ifanc yr ydym yn gweithio gyda nhw byddwn yn cysylltu â chi.

Eich dewis chi yw ymateb i ni. Nid oes rhaid i chi ateb.
Os y byddwch yn dewis cael cyswllt â ni, gallwch dynnu nol unrhyw amser. 

Byddwn yn gofyn sut y cafoch eich effeithio gan y drosedd a beth, os oes unrhyw beth, yr hoffech ei ddweud wrth y person ifanc. Gallwchi awgrymu lle rydych chi'n meddwl y dylai'r person ifanc wneud rhywfaint o waith yn y gymuned; derbyn llythyr eglurhad neu gyfarfod â'r person ifanc wyneb yn wyneb.

Os ydych yn dymuno gallwn eich diweddaru ynglyn â sut mae'r person ifanc yn mynd ymlaen yn eu gwaith gyda ni. Gallwch ddweud wrthym am unrhyw bryderon sydd gennych chi, gallwn drafod sut i leihau'r pryderon hynny.

Hyd yn oed os nad ydych am gymryd rhan pan fyddwn yn cysylltu â chi gynta, gallwch gysylltu  â nines ymlaen. Rydym yn gweithio yn unol â'r Côd Ymarfer Cenedlaethol ar gyfer Dioddefwyr Troseddau a gyhoeddur gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.

 

Gwefannau defnyddiol

Restirative Justice

Côd ymddygiad dioddefwyr