Plant, Pobl ifanc, rhieni a gofalwyr
Os ydych chi'n blentyn neu person ifanc sydd wedi troseddu bydd yr Heddlu neu'r Llysoedd yn eich cyfeirio chi aton ni.
Ein nod ni wedyn fydd atal troseddu.
Y cam cyntaf yw asesu. Trafod fyddwni yn y cam yma. Trafod bywyd y person ifanc dan sylw er mwyn gweld sut allwni gyda'n gilydd helpu'r person i gadw allan o drafferth yn y dyfodol. Byddwn yn siarad gyda'r
- plentyn/ person ifanc
- eu rhieni/ gofalwyr
- gweithwr cymdeithasol
- teulu arall
Mae mor bwysig ein bod yn siarad a gymaint o bobl a sy'n bosib sy'n adnabod y plentyn/ person ifanc er mwyn cael darlun llawn. Ar ôl gwneud hyn byddwn yn ysgrifennu adroddiad a cytuno ar gynllun efo'n gilydd ynglyn â'r ffordd ymlaen.
Mae pob cynllun yn wahanol gan fod pob unigolyn yn wahanol. Pwrpas yr asesu fyddd gwneud yn siwr ein bod ni gyda'n gilydd yn gweithio ar gynllun sy'n addas i'r unigolyn.