Caniatâd draenio tir cyrsiau dŵr cyffredin

Mae Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am awdurdodi caniatâd i unigolion, cwmnïau, grŵp o unigolion a chyrff cyhoeddus, sy'n dymuno ymgymryd â newidiadau i gwrs dŵr cyffredin sy’n gallu effeithio ar y llif neu fod yn risg llifogydd. Gelwir y caniatâd yma yn Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin (Ordinary Watercourse Consent).

Dan Adran 23 a 25 Deddf Draenio Tir 1991, mae codi neu newid argae melin, cwlfert, cored neu rwystr tebyg neu unrhyw waith all effeithio ar lif unrhyw gwrs dŵr cyffredin angen caniatâd gan y Prif Awdurdodau Atal Llifogydd (PAAL). Mae'r prif afonydd yn cael eu rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r rheoleiddio yn cynnwys dwy elfen:

  • cyflwyno caniatâd am unrhyw newidiadau i gyrsiau dŵr cyffredin a all fod yn rhwystr neu sy’n newid llif cwrs dŵr cyffredin;
  • camau gorfodaeth i gywiro unrhyw waith anghyfreithlon ac a fedrai fod yn niweidiol i gwrs dŵr. 

 

Bydd angen caniatâd i wneud unrhyw weithgaredd ar gyrsiau dŵr cyffredin sy’n debygol o achosi rhwystr i lif neu gyfyngu faint o ddŵr a gedwir gan gynnwys sianelu, pontydd, coredau ac ati.

Mae hyn yn golygu felly y bydd angen caniatâd i wneud unrhyw waith cloddio er mwyn gosod draen, ceuffos neu unrhyw ffordd arall ar gyfer dŵr mewn cwrs dŵr cyffredin, arni o dani neu drosti ac ar lan cwrs dŵr cyffredin.

Mae angen caniatâd o dan y ddeddfwriaeth uchod ar gyfer gwaith parhaol a dros dro. Hyd yn oed os oes caniatâd cynllunio neu ganiatâd datblygu arall bydd dal angen i chi gael caniatâd gennym i weithio ar gyrsiau dŵr cyffredin.

Caniatâd

Mae derbyn caniatâd i wneud newidiadau i gwrs dŵr o'r mathau a ddisgrifir uchod  yn bwysig, gan fod unrhyw newidiadau yn meddu’r gallu i gynyddu risg llifogydd i bobl ac eiddo, naill ai'r rhai sydd i fyny'r afon neu i lawr yr afon ac sy'n aml heb unrhyw gysylltiad â'r gwaith dan sylw. 

Anogir chi i gysylltu â ni ymlaen llaw cyn ceisio am ganiatâd fel y medrwn drafod eich gofynion, darparu cyngor a sicrhau bod eich cais wedi ei lenwi'n gywir.  Cyn llenwi eich cais dylech ddarllen y nodiadau canllaw i wneud cais am ganiatâd draenio tir cyrsiau dŵr cyffredin.    

Ar ôl derbyn cais, mae cyfyngiad amser o ddau fis i gymeradwyo neu wrthod caniatâd. Nid yw'r cais wedi ei gymeradwyo tan i chi dderbyn caniatâd ffurfiol.  

Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio’r tîm ar 01341 424422 neu drwy e-bostio: FCRMU@gwynedd.llyw.cymru.

Telerau ac amodau 

Chi sy'n gyfrifol am sicrhau fod unrhyw waith yn cael ei ymgymryd yn unol â'r caniatâd ac unrhyw ddeddfwriaeth gysylltiedig arall. Rhaid i chi sicrhau fod contractwyr sy'n ymgymryd â'r gwaith yn hollol ymwybodol o'r caniatâd a'i amodau. 

Gallwch ymgeisio am ganiatâd draenio tir cwrs dŵr cyffredin drwy lawrlwytho a llenwi ffurflen gais penodol i'r diben. 

Gallwch anfon y ffurflen gais wedi ei llenwi ar e-bost at FCRMU@gwynedd.llyw.cymru neu drwy'r post at: 

Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Cyngor Gwynedd
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH 

Camau gorfodi yn erbyn gwaith sydd heb ganiatâd

Yn achos gwaith a wnaed heb ganiatâd, a ble rydym yn credu fod angen caniatâd, ni ellir rhoi ôl-ganiatâd. 

Dan adran 24 y Ddeddf gellir cymryd camau gorfodi pan fo gwaith niweidiol neu waith a fedrai fod yn niweidiol wedi'i wneud ar gyrsiau dŵr cyffredin heb y caniatâd angenrheidiol,  Gellir hefyd gymryd camau gorfodi pan fo gwaith a ganiatawyd wedi ei wneud mewn modd sy'n groes i'r caniatâd. Ble fo gwaith o'r fath wedi’i wneud mae pwerau gorfodi ar gael i'r LLFA sy'n cynnwys: 

  • llythyr cynghori i'r unigolyn yn ei atgoffa o ofynion y caniatâd
  • llythyr i rybuddio'r unigolyn fod y camau a gymerwyd yn groes i ddeddfwriaeth caniatáu
  • hysbysiad yn gorfodi camau adfer neu'n gwahardd gweithgaredd rhag cael ei gynnal
  • camau adfer uniongyrchol, a hefyd ailgodi tâl neu gostau camau o'r fath ac erlyn posib

Ar Ebrill 1af, 2019 o dan Adran 66 Deddf Draenio Tir 1991, mabwysiadodd Gyngor Gwynedd is-ddeddfau Draenio Tir (Cyngor Gwynedd) 2019. Diben yr is-ddeddfau yma yw:

a)    gofalu bod y draenio tir yn effeithlon yn ardal y cyngor;

b)    cadw trefn ar effeithiau amgylcheddol draenio tir yn ardal y cyngor;

c)    gofalu bod trefniadau rheoli perygl llifogydd effeithiol yn ôl adran 14A y ddeddf honno;

ch)  gofalu bod gwaith sydd wedi’i wneud yn ôl Adran 38 neu 39 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (llifogydd cysylltiedig neu erydu arfordirol) yn effeithiol.

Bydd angen caniatâd i wneud gwahanol weithgareddau o fewn 8 metr i gwrs dŵr cyffredin. Mae’r gwaith yma yn cynnwys pethau fel plannu coed, storio deunyddiau, cynnau tân, codi adeilad ayyb. Mae enghreifftiau o’r gweithgareddau i’w gweld drwy glicio ar y ddolen berthnasol isod, er dylid nodi nad yw’n gyflawn.

Mae’r is-ddeddfau yma mewn lle er mwyn atal trydydd parti rhag gwneud gwaith heb ganiatâd a all gynyddu’r risg o lifogydd. Er hyn, ni ellir atal unrhyw un sydd â’r hawl neu’r dyletswydd o dan unrhyw ddeddfwriaeth arall fel Deddf neu Reoliad neu drwydded i weithredu yn unol â hynny.

Os ydych yn bwriadu ymgymryd ag unrhyw weithgaredd a reolir o dan bwerau’r is-ddeddfau yma gofynnir i chi gysylltu a ni am gyngor o flaen llaw drwy unai ffonio 01341 424422 neu gyrru e-bost i FCRMU@gwynedd.llyw.cymru