Paratoadau llifogydd personol

Mae gallu Cyngor Gwynedd i weithio gyda thrigolion lleol a phartneriaid eraill yn gyfyngedig i ymchwilio i unrhyw ffyrdd y gallwn ostwng tebygolrwydd y llifogydd gwaethaf neu amlaf. Er hynny, mewn sawl achos mae atal yn amhosibl.

Rydym yn eich annog i ystyried yr hyn fedrwch chi wneud i wrthsefyll llifogydd fel cam cyntaf. Gwarchod eich cartref ydi gwrthsefyll, felly os bydd llifogydd, bydd unrhyw ddifrod wedi ei gyfyngu er mwyn eich dychwelyd i'ch cartref cyn gynted â phosib.

 

Cadw dŵr llifogydd allan o'ch eiddo

Mae'n bwysig meddwl am ffyrdd o gadw dŵr llifogydd allan o'ch eiddo, neu o leiaf arafu cyflymder y dŵr sy'n dod i'ch cartref fel bod mwy o amser i chi symud pobl a phethau i le diogel.

Gall dŵr fynd i mewn i eiddo drwy ddrysau, ffenestri, brics awyru neu fel dŵr daear drwy loriau. Gallwch atal dŵr rhag dod i mewn drwy osod cynnyrch arbenigol fel giatiau llifogydd a osodir ar derfyn eich eiddo neu'n union o flaen pwyntiau mynediad diamddiffyn, neu frics awyru 'smart' pwrpasol sy'n cyfyngu dŵr llifogydd rhag treiddio. Mae modd adeiladu waliau efo bagiau tywod o flaen drysau i ail-gyfeirio dŵr llifogydd. Rydym ni'n cynghori trigolion sydd mewn perygl i gadw eu stoc eu hunain ohonynt. 

Am fwy o fanylion am gynnyrch atal llifogydd defnyddiol, cysylltwch â'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol neu defnyddiwch y Cyfeiriadur Tudalennau Glas y Fforwm Llifogydd.

 

Cyfyngu'r difrod posib i'ch eiddo a'ch pethau

Ail ran gwrthsefyll llifogydd yw cyfyngu'r difrod posib i'ch eiddo a'ch pethau mewn sefyllfa o ddŵr yn gorlifo i'ch eiddo.

Mae hyn yn cynnwys cael lloriau sy'n gwrthsefyll dŵr fel concrid neu loriau teils ac arwynebau cegin sy'n gwrthsefyll dŵr sy'n hawdd eu diheintio.

Ystyriwch symud plygiau soced fel eu bod yn uwch ar y wal i leihau'r risg o ddifrod a chael dodrefn ysgafn sy'n hawdd i'w symud. 

Mae cymryd amser i baratoi fel eich bod yn medru gwrthsefyll llifogydd yn gallu:

  • lleihau difrod llifogydd 
  • lleihau'r amser y byddwch yn gorfod aros allan o'ch cartref ar ôl llifogydd
  • cyfyngu cost gwaith atgyweirio ar ôl llifogydd
  • lleihau cost yswiriant, neu gwneud yn siŵr bod eich eiddo yn parhau i gael yswiriant
  • darparu amddiffyniad rhag dŵr llifogydd
  • rhoi mwy o dawelwch meddwl i chi pan fydd hi'n glawio'n drwm

Am fwy o wybodaeth am wrthsefyll llifogydd, cysylltwch â'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol neu darllenwch ddogfen ganllaw CNC Beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd

 

Cynllunio ar gyfer argyfwng

Bydd cymryd camau priodol yn caniatáu i chi ymateb ac adfer y sefyllfa yn well ar ôl digwyddiad llifogydd   

  • Byddwch yn ymwybodol o rybuddion llifogydd neu lawiad trwm yn eich ardal - mae modd derbyn rhybuddion llifogydd o wefannau CNC  a diweddariadau gan benawdau'r newyddion neu'r tywydd. Os ydych yn byw mewn ardal sydd â risg uchel mae modd i chi hefyd dderbyn gwybodaeth gan wasanaeth Floodline CNC .   
  • Paratowch gynllun llifogydd personol - ystyriwch:
    • Pwy sydd angen i chi gysylltu â nhw os oes llifogydd a sut?
    • Pa eitemau o werth personol y gallwch eu symud cyn unrhyw lifogydd
    • Beth neu pwy fyddai angen i chi ei symud i le diogel yn ystod llifogydd?
    • Yn ystod llifogydd, ble sy'n debygol o fod yn le diogel a hygyrch?
    • Gwiriwch fod eich yswiriant cartref yn cynnwys difrod a achoswyd gan lifogydd
    • Dylech wybod sut i ddiffodd eich nwy, trydan a'r prif gyflenwad dŵr
    • Paratowch becyn llifogydd ymlaen llaw gyda'r holl eitemau hanfodol ynddo  

Rôl y Cyngor wrth baratoi ar gyfer argyfwng yw asesu'r risgiau a gwneud cynlluniau, hysbysu a chynghori'r cyhoedd a busnesau, a gweithio gyda'r gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill.  Byddwn hefyd yn sicrhau fod y Cyngor yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn argyfwng.  

COFIWCH: Chi sy'n gyfrifol am amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd. Nid cyfrifoldeb Cyngor Gwynedd yw hyn.

Pan fo llifogydd, yn ystod tywydd garw neu lanw uchel, bydd y Cyngor yn ceisio cyflenwi bagiau tywod i bobl sy'n gofyn amdanynt os oes risg uchel o lifogydd yn yr eiddo. Mae gallu’r Cyngor i gyflenwi bagiau tywod yn dibynnu os oes gweithwyr ar gael oherwydd graddau a gerwinder y llifogydd.

 

Cysylltu â ni:

Gallwch ffonio Cyngor Gwynedd 24 awr y dydd ar 01766 771000 neu ewch i'r dudalen Argyfwng am gyngor cyffredinol mewn adegau o lifogydd a gwybodaeth ynglyn a’r effaith ar wasanaethau.

I gael rhagor o gyngor ar sut i baratoi ar gyfer argyfwng cysylltwch â'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol neu darllenwch ddogfen ganllaw CNC: Beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.