Peryglon llifogydd a chyfrifoldebau

Os ydych yn byw neu'n gweithio yn agos at gwrs dŵr a o fewn y gorlifdir naturiol, mae perygl y gall llifogydd afonol fygwth eich eiddo neu eich gweithle. Gall llifogydd hefyd effeithio ar ardaloedd sydd i ffwrdd o'r gorlifdir naturiol. Gall stormydd cryfion fod yn ormod straen ar allu'r system ddraenio leol neu droi'r tir yn gors gan roi llawer mwy o gartrefi, busnesau a phobl mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb, dŵr daear ac o gwrs dŵr. Mae sawl ffynhonnell llifogydd a fedrai fod yn berygl i drigolion sy'n cynnwys: 

  • Llifogydd arfordirol - yn digwydd pan fo tir sych, isel fel arfer yn gorlifo gan ddŵr môr naill ai yn ystod adegau pan fo llanw uchel a/neu oherwydd fod tonnau yn dod drosodd
  • Llifogydd afonol - yn digwydd pan fo glawiad eithafol dros gyfnod estynedig o amser yn achosi i afon fynd dros ei glannau a gorlifo i'r gorlifdir cyfagos
  • Llifogydd dŵr wyneb - achosir hyn gan ddŵr storm yn cronni ar arwynebau, yn aml pan fo'r arwynebau yma'n rhai gyda phalmant caled neu ble fo gormod o law yn syrthio i'r pridd fedru ymdopi
  • Llifogydd dŵr daear - pan fo'r lefel trwythiad; lefel y dŵr o dan ddaear, yn codi uwchben wyneb y ddaear.  Yn ystod glawiad trwm, gall lefel y dŵr yn y ddaear godi cymaint fel ei fod yn achosi llifogydd mewn isloriau, neu gall dŵr daear sy'n dod i'r wyneb achosi niwed i eiddo a seilwaith.  
  • Llifogydd cronfeydd dŵr - yn dilyn o fethiant strwythurau i ddal dŵr y gronfa yn ôl (e.e. argaeau, waliau cynnal). Dyma'r ffynhonnell perygl sydd fwyaf annhebygol i unrhyw eiddo oherwydd y rheoliadau llym a'r trefniadau cynnal a chadw a ddefnyddir gan weithredwyr cronfeydd dŵr. 

Defnyddiwch fapiau rhyngweithiol CNC i ddysgu am beryglon o lifogydd ac am wybodaeth am berygl llifogydd.

Mae'r Cyngor hwn yn gweithio gyda sefydliadau partner i reoli perygl llifogydd yng Ngwynedd er mwyn lleihau'r dinistr y sy'n cael ei achosi.

 

Cyfrifoldebau perygl llifogydd 

Mae gan nifer o gyrff gyfrifoldebau statudol i reoli perygl llifogydd yng Ngwynedd, yn unol â Deddf Llifogydd a Rheoli Dŵr 2010. Gelwir y cyrff yma'n awdurdodau rheoli risg (RMAs) sy'n cynnwys:  

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r awdurdod rheoli risg sydd â chyfrifoldeb am faterion sy'n ymwneud â llifogydd o'r prif afonydd a'r môr. Mae gan CNC bwerau i weithio ar y prif afonydd a'r arfordir i reoli perygl llifogydd.  

Gall gwaith rheoli risg llifogydd CNC gynnwys: 

  • adeiladu a chynnal a chadw asedau rheoli risg llifogydd, e.e. cloddiau llifogydd, a gwaith ar brif afonydd i reoli lefel dŵr ac i sicrhau bod dŵr llifogydd yn gallu llifo'n rhwydd
  • gweithredu asedau rheoli risg llifogydd yn ystod llifogydd
  • carthu'r afon
  • cyflwyno rhybuddion llifogydd 

Mae gan CNC rôl strategol am holl ffynonellau llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Mae'r corff wedi cyd-weithio â Llywodraeth Cymru ar strategaeth genedlaethol i Gymru. Mae'r strategaeth yn dangys sut y gall cymunedau, y sector cyhoeddus a sefydliadau eraill gyd-weithio i reoli'r risg. Mae hyn yn cynnwys datblygu strategaethau lleol ar gyfer Prif Awdurdodau Atal Llifogydd i reoli perygl llifogydd. Mae CNC hefyd yn ymgymryd â rôl ymgynghorai statudol i roi cyngor technegol ar risg llifogydd o'r prif afonydd ac ar yr arfordir i awdurdodau cynllunio Gwynedd a'r Parc Cenedlaethol.  

Dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, daeth Cyngor Gwynedd yn Brif Awdurdodau Atal Llifogydd (PAAL), yn rhan o oruchwylio rheoli perygl llifogydd o ffynonellau lleol. Mae ffynonellau llifogydd lleol yn cynnwys:

  • dŵr wyneb,
  • cyrsiau dŵr cyffredin (gan gynnwys llynnoedd a phyllau neu fannau eraill lle mae dŵr yn llifo i gwrs dŵr cyffredin),
  • dŵr y ddaear, a
  • lle mae rhyngweithio rhwng y ffynonellau hyn a'r prif afonydd neu'r môr.

Mae Uned Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) o fewn Gwasanaeth Ymgynghoriaeth y Cyngor (YGC) yn cyflawni rôl PAAL ar ran Cyngor Gwynedd. 

Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn gosod dyletswyddau statudol ar Awdurdodau Lleol fel y Prif Awdurdodau Atal Llifogydd (PAAL), sy’n cynnwys: 

  • paratoi strategaethau lleol i reoli perygl llifogydd
  • archwilio’r holl lifogydd yn ei ardal, ar yr amod fod LLFA yn ystyried bod angen hyn neu ei fod yn briodol 
  • cadw cofrestr o strwythurau a nodweddion sy’n debygol o effeithio ar berygl llifogydd
  • rhoi caniatâd i unigolion, cwmnïau, grŵp o unigolion a chyrff cyhoeddus, sy'n dymuno ymgymryd â newidiadau i gwrs dŵr cyffredin sy’n gallu effeithio ar y llif neu fod yn risg llifogydd
  • ymgymryd â rôl ymgynghorai statudol gan ddarparu cyngor technegol ar risg llifogydd i awdurdodau cynllunio Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri
  • gwerthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd lle mae gan waith adeiladu oblygiadau draenio, a mabwysiadu a chynnal cynlluniau draenio cynaliadwy  

Yn ogystal â hyn, mae gan bob PAAL nifer o bwerau caniataol. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • dynodi strwythurau neu nodweddion penodol sy’n effeithio ar berygl llifogydd neu erydu arfordirol
  • ymgymryd â gwaith i reoli perygl llifogydd o ddŵr wyneb ffos neu ddŵr daear, yn unol â’r strategaeth rheoli perygl llifogydd lleol.  

Mae gan Dŵr Cymru (DCWW) gyfrifoldeb i ddarparu cyflenwad dŵr o ansawdd uchel i gwsmeriaid a mynd â dŵr gwastraff ymaith a’i ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd. 

Wrth ddarparu’r swyddogaethau sylfaenol o gynnwys, cludo a thrin dŵr a dŵr gwastraff, gall asedau DCWW achosi perygl llifogydd o ganlyniad i'r system yn methu, pibellau a phrif bibellau yn chwalu neu ddŵr yn gollwng o rwydwaith carthffosiaeth ac asedau eraill mae Dŵr Cymru yn gyfrifol amdanynt. 

I leihau’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r asedau hyn, mae gan Ddŵr Cymru nifer o systemau rheoli perygl yn eu lle, sy’n cynnwys adolygiadau digwyddiad hanesyddol, risg rhagweithiol dal a blaenoriaethu, cynllunio i fuddsoddi mewn dalgylch a chynllunio digwyddiad argyfwng. 

Mae Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am rwydwaith o ffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd yn y Sir, tra bo ACGChG yn gyfrifol am y rhwydwaith o gefnffyrdd gan weithredu ar ran Llywodraeth Cymru. Dan y Ddeddf Priffyrdd, mae gan yr awdurdod priffyrdd ddyletswydd i gynnal y briffordd, gan gynnwys sicrhau bod systemau draenio’r briffordd yn glir. Fel rhan o’r ddyletswydd yma, mae’r holl ffyrdd yn y sir yn amodol i raglen archwilio a chynnal a chadw, gan drin unrhyw broblemau fel wrth iddynt godi.   

 

Cyfrifoldebau eraill

Er bod y cyrff hyn yn gyfrifol am reoli perygl llifogydd o'u tarddiad, nid nhw sy'n atebol am unrhyw ddifrod mae llifogydd yn eu hachosi. Perchnogion eiddo sy'n gyfrifol am amddiffyn eu heiddo rhag llifogydd, ynghyd â'u hawliau a'u cyfrifoldebau fel perchnogion eiddo ar lan afon. 

Perchnogion Eiddo ar lan afon yw'r perchnogion tir sy'n agos i gwrs dŵr ac mae ganddynt rôl bwysig i'w chwarae o ran rheoli risg llifogydd yn nalgylch afon. Mae perchnogion eiddo ar lan afon yn gyfrifol am: 

  • gynnal a chadw gwelyau a glannau afonydd
  • caniatáu i ddŵr lifo heibio yn ddi-rwystr 
  • rheoli rhywogaethau ymwthiol fel Llysiau’r Dial 

Dylai perchnogion eiddo ar lan afon hefyd wneud yn siŵr nad oes dim ar eu tir a fedrai gael ei olchi ymaith gan lif dŵr uchel gan achosi rhwystr yn nes i lawr yr afon. 

Darllenwch fwy ynglŷn ag hawliau a chyfrifoldebau perchnogion glannau afon yng nghanllaw'r CNC.

 

Mae gan unigolion gyfrifoldeb personol i fod yn ymwybodol o lefel y risg lle maent yn byw, i gynllunio yn effeithiol i warchod eu hunain a'u heiddo rhag niwed llifogydd.   

Mae cyngor ynglŷn â pharatoi ar gyfer adegau o lifogydd i'w gael yma.