Pwerau gorfodi
Mewn sawl enghraifft gall rhwystro cwrs dŵr yn rhannol neu'n llawn olygu llifogydd i dir neu yn yr achosion gwaethaf i eiddo, busnesau a/neu seilwaith pwysig. Pan fydd Cyngor Gwynedd yn gwybod am rwystr posib neu ataliad i gwrs dŵr cyffredin, byddwn yn ceisio gweithio gyda'r holl bartïon dan sylw i helpu datrys y broblem cyn ystyried defnyddio pwerau gorfodi caniataol.
Amcanion allweddol gorfodaeth wrth reoli perygl llifogydd yw sicrhau bod y llif cywir o ddŵr mewn cwrs dŵr a dros y gorlifdir, rheoli lefelau dŵr a diogelwch asedau sy'n bodoli. I gyflawni hyn, rydym yn gallu cymryd camau gorfodi i gywiro gwaith anghyfreithlon a niweidiol, neu a fedrai fod yn niweidiol, gan ddefnyddio dull blaenoriaeth ar sail risg.
Mae gan Gyngor Gwynedd bwerau caniataol dan Adran 25 o'r Ddeddf Draenio Tir i sicrhau bod gwaith cynnal a chadw priodol yn cael ei ymgymryd gan berchnogion tir ar lan afon ar gyrsiau dŵr cyffredin. Gellir ymarfer y pwerau hyn os ystyrir fod diffyg gwaith cynnal a chadw neu newid i gwrs dŵr yn achosi perygl llifogydd.
Felly, os yw perchennog tir yn cymryd camau sy'n effeithio yn andwyol ar y risg llifogydd i eiddo perchennog tir arall, mae gennym yr hawl i gyflwyno hysbysiad cyfreithiol ar y parti sy'n gyfrifol i ymgymryd â gwaith adfer i ddatrys y mater. Dylid nodi mai caniataol yw'r pwerau hyn ac nid ydynt yn ddyletswydd ac o'r oherwydd mae ymarfer y pwerau hyn yn fater o ddisgresiwn.
Byddwn ond yn ymarfer pwerau caniataol pan fo angen, ac fel cam olaf wedi edrych ar bob cyfle arall i ddatrys y mater. Wrth ddod i benderfyniad ynglŷn ag ymarfer ei bwerau, bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried:
- Canlyniadau peidio â chydymffurfio;
- Perfformiad y troseddwr wrth gydymffurfio yn y gorffennol;
- Effeithiolrwydd tebygol a risg yr opsiynau gorfodi; a
- Buddiannau’r cyhoedd.
Dim ond ar ôl rhoi cynnig ar yr holl ddewisiadau eraill a/neu fod tystiolaeth gref i gefnogi fod eiddo preswyl neu seilwaith pwysig wedi eu heffeithio neu mewn perygl uniongyrchol o lifogydd, y bydd penderfyniad yn cael ei ystyried yn llawn i gymryd camau gorfodi.